(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu gweithwyr cymdeithasol o dan hyfforddiant at ddibenion adran 56 o Ddeddf Safonau Gofal 2000. Mae Adran 56 yn ei gwneud yn ofynnol i Gyngor Gofal Cymru gadw cofrestr o weithwyr cymdeithasol a gweithwyr gofal cymdeithasol o unrhyw ddisgrifiad arall a bennir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru trwy orchymyn.