(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys mewn perthynas â Chymru'n unig, yn ymwneud â'r swm y gellir gofyn i denantiaid ei gyfrannu, trwy dalu taliadau gwasanaeth, ac â'r costau perthnasol a dynnir gan landlordiaid wrth gyflawni gwaith neu o dan gytundebau penodol. Onid yw landlord yn cydymffurfio â gofynion ymgynghori rhagnodedig neu'n cael gollyngiad gan dribiwnlys prisio lesddaliadau o dan adran 20(9) o Ddeddf Landlord a Thenant 1985 o ran pob un neu unrhyw un o'r gofynion hynny, mae cyfraniadau a wneir gan denantiaid fel taliadau gwasanaeth yn gyfyngedig.

Mae rheoliad 3(1) yn esemptio'r canlynol o'r gofynion ymgynghori sy'n gymwys i gytundebau sydd am gyfnod o fwy na 12 mis (“cytunebau hir-dymor cymwys”):

(a)

contractau cyflogaeth;

(b)

cytundebau rhwng corff rheoli tenantiaid neu gorff rheoli hyd braich (corff a sefydlwyd o dan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000) ac awdurdod tai lleol o dan adran 27 o Ddeddf Tai 1985 (cytundebau rheoli);

(c)

cytundebau rhwng cwmni daliannol ac unrhyw un o'i is-gwmnïau neu rhwng dau neu fwy o is-gwmnïau'r un cwmni daliannol; ac

(ch)

cytundebau sydd am dymor o ddim mwy na phum mlynedd ac sy'n gysylltiedig ag adeiladau neu dir ac adeiladau eraill nad oes iddynt denantiaid pan wneir y cytundeb.

Mae rheoliad 3(2) yn darparu nad yw cytundeb yr ymrwymir iddo cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym yn gytundeb hir-dymor cymwys hyd yn oed os oes mwy na 12 mis o gyfnod y cytundeb yn weddill pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym.

Mae rheoliad 3(3) yn darparu nad yw cytundeb am gyfnod o fwy na 12 mis yn gytundeb hir-dymor cymwys os yw'n darparu ar gyfer cyflawni gwaith ar adeilad neu ar unrhyw dir ac adeiladau eraill (“gwaith cymwys”) y cyhoeddwyd hysbysiad yn eu cylch yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd (“ y Cyfnodolyn Swyddogol”) (i gydymffurfio â rheolau caffael yr UE) cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.

Mae rheoliad 4 yn gosod terfyn o £100 mewn unrhyw gyfnod cyfrifydda (fel y'i diffinnir yn rheoliad 4(2)) mewn perthynas â thaliadau gwasanaeth y gellir eu priodoli i ddarparu nwyddau neu wasanaethau, neu i gyflawni gwaith, o dan gytundeb hir-dymor cymwys. Bydd y terfyn hwnnw'n gymwys onid yw'r landlord yn cydymffurfio â'r gofynion ymgynghori a ragnodir gan reoliad 5 neu'n cael gollyngiad gan dribiwnlys prisio lesddaliadau mewn perthynas â phob un neu unrhyw rai o'r gofynion hynny.

Mae rheoliad 5 yn ymdrin â'r gofynion ymgynghori sy'n gymwys i gytundebau hir-dymor cymwys. Ac eithrio yn yr achosion a grybwyllir isod, y gofynion ymgynghori yw'r rhai a bennir yn Atodlen 1. Pan fydd y Rheoliadau hyn yn dod i rym neu ar ôl hynny, os (i gydymffurfio â rheolau caffael yr UE) bydd yn ofynnol cyhoeddi yn y Cyfnodolyn Swyddogol hysbysiad ynghylch nwyddau neu wasanaethau sydd i'w darparu neu waith sydd i'w gyflawni o dan y cytundeb, y gofynion ymgynghori yw'r rhai a nodir yn Atodlen 2. Os bydd person yn mynd yn denant o ganlyniad i arfer yr hawl i gael les hir o dan adran 138 o Ddeddf Tai 1985 (hawl i brynu) (gan gynnwys yr adran honno fel y'i cymhwysir mewn perthynas â'r hawl i brynu sydd wedi'i chadw o dan adran 171A o'r Ddeddf honno neu â'r hawl i gaffael o dan adran 16 o Ddeddf Tai 1996) dim ond y gofynion ymgynghori hynny sy'n gymwys i'r cytundeb ac sydd, ar ôl y degfed diwrnod ar hugain o denantiaeth y person hwnnw, yn dal yn ofynion na chydymffurfiwyd eisoes â hwy, y mae'n ofynnol i landlord gydymffurfio â hwy.

Mae rheoliad 6 yn gosod terfyn o £250 ar gyfraniad tenant mewn perthynas â thaliadau gwasanaeth sydd wedi'u priodoli i waith cymwys. Bydd y terfyn hwnnw'n gymwys onid yw'r landlord yn cydymffurfio â'r gofynion ymgynghori a ragnodir gan reoliad 7 neu'n cael gollyngiad gan dribiwnlys prisio lesddaliadau mewn perthynas â phob un neu unrhyw rai o'r gofynion hynny.

Mae rheoliad 7 yn ymdrin â'r gofynion ymgynghori sy'n berthnasol i waith cymwys o'r math a ddisgrifir yn y rheoliad hwnnw. Mewn perthynas â gwaith cymwys arall, mae gofynion ymgynghori o dan adran 20 o Ddeddf Landlord a Thenant 1985, fel yr oedd yn union cyn yr amnewid a wnaed gan adran 151 o Ddeddf Cyd-ddeiliadaeth a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002, yn parhau i fod yn gymwys yn rhinwedd erthygl 3 o Orchymyn Deddf Cyd-ddeiliadaeth a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (Cychwyn Rhif 2 ac Arbedion) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/669 (Cy.62) (C.25)).

Mae paragraff (1) o reoliad 7 yn ymwneud â gwaith cymwys sy'n destun cytundeb hir-dymor cymwys. Yn ddarostyngedig i eithriad y mae paragraff (5) yn darparu ar ei gyfer (“eithriad paragraff (5)”), y gofynion ymgynghori yw'r rhai a nodir yn Atodlen 3 i'r Rheoliadau.

Mae paragraffau (2) at (4) yn ymwneud â gwaith cymwys nad yw'n destun cytundeb hir-dymor cymwys.

Mae paragraff (2) yn ymwneud â'r gofynion ymgynghori mewn achos y mae paragraff (3) yn gymwys iddo. Yn ddarostyngedig i eithriad paragraff (5), y gofynion ymgynghori mewn achos o'r fath yw'r rhai a nodir yn Atodlen 3 (yr un gofynion ag sy'n gymwys i waith cymwys o dan gytundebau hir-dymor cymwys).

Mae paragraff (3) yn gymwys os yw gwaith cymwys yn cael ei gyflawni:

(a)

ar neu ar ôl y dyddiad sydd ddau fis ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym o dan gytundeb yr ymrwymir iddo cyn daw'r Rheoliadau hyn i rym; neu

(b)

o dan gytundeb am fwy na 12 mis os cyhoeddir hysbysiad o'r gwaith hwnnw yn y Cyfnodolyn Swyddogol cyn daw'r Rheoliadau hyn i rym.

Mae paragraff (4) yn gymwys i achosion nad yw paragraff (3) yn gymwys iddynt. Pan yw'n ofynnol cyhoeddi hysbysiad o'r gwaith cymwys yn y Cyfnodolyn Swyddogol (er mwyn cydymffurfio â rheolau caffael yr UE), ac yn ddarostyngedig i eithriad paragraff (5), y gofynion ymgynghori yw'r rhai sydd wedi'u nodi yn Rhan 1 o Atodlen 4. Pan nad yw'n ofynnol cyhoeddi hysbysiad yn y Cyfnodolyn Swyddogol, ac yn ddarostyngedig i eithriad paragraff (5), y gofynion ymgynghori yw'r rhai a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 4.

Mae eithriad paragraff (5) yn gymwys pan yw person yn mynd yn denant o ganlyniad i arfer yr hawl i gael les hir wedi'i roi iddo o dan adran 138 o Ddeddf Tai 1985 (gan gynnwys yr adran honno fel y'i cymhwysir mewn perthynas â hawl i brynu a gadwyd o dan adran 171A o'r Ddeddf honno neu'r hawl i gaffael o dan adran 16 o Ddeddf Tai 1996). Yn yr achos hwnnw, ac mewn perthynas â'r person hwnnw ac â'r gwaith cymwys penodol hwnnw, dim ond y gofynion ymgynghori hynny, sy'n gymwys i'r gwaith hwnnw ac sydd, ar ôl y degfed dydd ar hugain o denantiaeth y person hwnnw, yn dal yn ofynion na chydymffurfiwyd â hwy eisoes, y mae'n ofynnol i landlord gydymffurfio â hwy.

Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi o'r Gyfarwyddiaeth Dai, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (Ffôn 029 20 823025).