Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer ffioedd mewn perthynas â cheisiadau i dribiwnlysoedd prisio lesddaliadau, a gwrandawiadau ger eu bron (gan gynnwys achosion a drosglwyddwyd o lys). Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw gais neu achos a drosglwyddir i dribiwnlys ar neu ar ôl 31 Mawrth 2004 ynglŷn â thir ac adeiladau yng Nghymru.
Maent yn disodli, gyda diwygiadau, Orchymyn Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Ffioedd) 1997 (O.S. 1997/1852) (“Gorchymyn 1997”).
Mae rheoliad 3 yn rhagnodi'r ffioedd sy'n daladwy am geisiadau i dribiwnlysoedd. Yn achos ceisiadau ynghylch —
atebolrwydd i dalu tâl am wasanaeth neu dâl am weinyddu;
swm y premiwm yswiriant; neu
amrywio lesddaliadau oherwydd tâl am weinyddu;
mae'r ffi yn cael ei chyfrifo drwy gyfeirio at werth y cais.
Yn achos ceisiadau ynghylch —
hepgor gofynion ymgynghori;
pa mor addas yw yswiriwr arfaethedig;
penodi rheolwr; neu
amrywio lesddaliadau,
mae'r ffi yn cael ei chyfrifo drwy ystyried nifer yr anheddau y mae'r cais yn ymwneud â hwy.
Mae rheoliad 4 yn rhagnodi bod rhaid cyfrifo'r ffi sy'n daladwy pan fydd llys yn trosglwyddo achos i dribiwnlys fel petai'r cais wedi'i wneud yn uniongyrchol i'r tribiwnlys, namyn unrhyw ffioedd a dalwyd i'r llys ar neu cyn dyddiad y gorchymyn yn trosglwyddo'r achos. £150 oedd y ffioedd cyfatebol y darparwyd ar eu cyfer yng Ngorchymyn 1997. Gan fod y ffi yn amrywio bellach, £50 yw'r ffi isaf sy'n daladwy yn awr, sef gostyngiad o 66.6%, tra bo'r ffi uchaf sy'n daladwy yn £350, sef cynnydd o 133.3%.
Mae rheoliad 5 yn rhagnodi ffi benodedig o £150 am wrandawiad. O dan Orchymyn 1997 yr oedd y ffi am wrandawiad yn un amrywiadwy: £150 oedd y ffi isaf a oedd yn daladwy a £350 oedd y ffi uchaf a oedd yn daladwy. O dan y Rheoliadau hyn mae gostyngiad o 57.1% yn y ffi am wrandawiad ar gyfer achosion yr oedd rhaid talu'r ffi uchaf amdanynt o'r blaen.
Mae rheoliad 6 yn darparu bod rhaid i ffi sy'n daladwy o dan reoliad 3 fynd gyda'r cais ac y byddai ffi sy'n daladwy o dan reoliadau 4 a 5 yn daladwy cyn pen 14 diwrnod ar ôl cael archiad ysgrifenedig am daliad.
Mae rheoliad 7 yn cynnwys darpariaethau sy'n ymdrin ag atebolrwydd i dalu'r ffioedd sy'n ddyledus o dan y Rheoliadau hyn. Yn benodol —
os bydd cais yn cael ei gyflwyno gan fwy nag un person;
os bydd mwy nag un cais yn cael ei wrando gyda'i gilydd; ac
os bydd cais cynrychioliadol,
mae'r ffi yn cael ei dosrannu ac mae pob person yn atebol i dalu cyfran.
Mae rheoliad 8 yn darparu bod atebolrwydd i dalu ffioedd yn cael ei hepgor pan fydd person neu bartner y person hwnnw yn cael budd-daliadau penodedig a bod ffioedd yn cael eu lleihau pan fydd mwy nag un person yn atebol i dalu ffi a bod o leiaf un person yn cael budd-daliadau o'r fath. At ddibenion y rheoliad hwn gall “partner” gynnwys person o'r un rhyw.
Mae rheoliad 9 yn darparu ar gyfer ad-dalu ffioedd.
Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi o'r Gyfarwyddiaeth Dai, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (Ffôn 029 20 823025).