Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Ffioedd) 1997 (“Gorchymyn 1997”) i'r graddau y mae'n effeithiol ar gyfer Cymru.

Mae Gorchymyn 1997 yn rhagnodi'r ffioedd sy'n daladwy am achos gerbron tribiwnlys prisio lesddaliadau, yn ddarostyngedig i ostyngiadau ac esemptiadau.

Mae Gorchymyn 1997 yn parhau i fod yn gymwys i unrhyw gais sy'n cael ei wneud, neu achos sy'n cael ei drosglwyddo, gan lys sirol i dribiwnlys prisio lesddaliadau cyn 31 Mawrth 2004.

Mae Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Ffioedd) (Cymru) 2004 yn rhagnodi'r ffioedd sy'n daladwy am achos gerbron tribiwnlys prisio lesddaliadau ynglŷn â mangre yng Nghymru, pan fydd y cais yn cael ei wneud, neu'r achos yn cael ei drosglwyddo, ar neu ar ôl 31 Mawrth 2004.

Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi o'r Gyfarwyddiaeth Dai, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (Ffôn 029 20 823025).