Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn datgan amserlen gyhoeddi datganiadau o dan adran 128 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000, a hefyd, at bwy y dylid danfon copi o'r datganiad.

Mae datganiad o dan adran 128 yn ddatganiad o'r weithred sydd yn cael ei chynnig gan yr adnabyddiaeth yr arolygwyd ei gwasanaeth, yn sgíl adroddiad ac yn dilyn arolygiad gan Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Gall y Prif Arolygydd drefnu cyhoeddi adroddiad o arolygiad wedi arolygu'r ddarpariaeth gwasanaethau cymorth ieuenctid y mae awdurdod lleol wedi ei gyfarwyddo gan y Cynulliad Cenedlaethol i'w ddarparu, ei ddiogelu neu gymryd rhan ynddo.