Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi grym i ddapariaethau amrywiol Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (“Deddf 2002”) mewn perthynas â Chymru.
Yn ddarostyngedig i'r arbedion yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn, daw'r darpariaethau a grybwyllir yn erthygl 2(a) i (c) i rym ar 30 Mawrth 2004. Maent yn cynnwys:
hawl newydd i lesddeiliaid hir fflatiau gyd-reoli eu hadeilad yn ddarostyngedig i gydymffurfio â rhai rheolau cymhwyso (adrannau 71 i 113);
newidiadau i'r diffiniad o daliadau gwasanaethau a'r hawl i herio'r taliadau hynny (adrannau 150 a 155);
newidiadau i'r darpariaethau sy'n ymnweud â cheisiadau am wybodaeth yswiriant gan y landlord (adran 157);
yr hawl i herio taliadau eraill o dan brydlesi a thaliadau mewn perthynas â chynlluniau rheoli ystadau (adrannau 158 a 159);
cymhwyso darpariaethau amrywiol landlord a thenant i dir y Goron (adran 172);
ymestyn awdurdodaeth tribiwnlysoedd prisio prydlesi a chydgrynhoi'r darpariaethau sy'n ymwneud â'u gweithdrefn (adrannau 163 a 173 i 176); ac
diwygiadau a diddymiadau canlyniadol a wnaed gan Ddeddf 2002 mewn Deddfau eraill.
Yn ddarostyngedig i'r arbedion yn erthygl 2(d), daw adran 151 o Ddeddf 2002 i rym hefyd ar 30 Mawrth 2004. Mae'r adran hon yn darparu ar gyfer gofynion ymgynghori newydd mewn perthynas â thaliadau gwasanaethau.