1.—(1) Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (Cychwyn Rhif 2 ac Arbedion) (Cymru) 2004.
(2) Yn y Gorchymyn hwn —
ystyr “Deddf 1967” (“the 1967 Act”) yw Deddf Diwygio Cyfraith Prydlesi 1967(1);
ystyr “Deddf 1985” (“the 1985 Act”) yw Deddf Landlord a Thenant 1985(2);
ystyr “Deddf 1987” (“the 1987 Act”) yw Deddf Landlord a Thenant 1987(3));
ystyr “Deddf 1993” (“the 1993 Act”) yw Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993(4);
ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Tai 1996(5));
ystyr “TPL” (“LVT”) yw tribiwnlys prisio lesddaliadau;
mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni, oni nodir yn wahanol, yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 ac Atodlenni iddi; ac
mae unrhyw gyfeiriad at ddiddymiad yn gyfeiriad at ddiddymiad a wneir gan adran 180 ac Atodlen 14.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.