Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995, fel y'u diwygiwyd eisoes (“y prif Reoliadau”) sy'n gymwys i Brydain Fawr gyfan.
Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu i E425 Konjac gael ei ddefnyddio mewn Bwydydd yn gyffredinol (ac eithrio mewn rhai bwydydd a bennir yn y prif Reoliadau) ond nid mewn cyffaith jeli. Mae cyffaith jeli yn cynnwys teisennau cwpan jeli.
Nid oes asesiad o effaith y rheoliadau wedi'i baratoi mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn gan na fydd gan yr offeryn effaith ar gostau busnes. Mae nodyn trosi sy'n nodi sut y mae prif elfennau Cyfarwyddeb 2003/52 yn cael eu trosi yn y rheoliadau hyn wedi'i baratoi a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11 Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.