(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Sefydlir Proffesiynau Iechyd Cymru (“PIC”) gan Orchymyn Proffesiynau Iechyd Cymru (Sefydlu, Aelodaeth, Cyfansoddiad a Swyddogaethau) 2004 (O.S. 2004/551 (Cy.55)) at ddibenion ymgymryd â swyddogaethau ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â'r proffesiynau gofal iechyd a gweithwyr cymorth gofal iechyd.

O dan adran 5 (2) o Ddeddf Iechyd (Cymru) 2003, caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru at ddibenion galluogi neu gynorthwyo PIC i gyflawni swyddogaethau ar ran y Cynulliad, drwy orchymyn, drosglwyddo i PIC eiddo, hawliau a rhwymedigaethau a phersonau a gyflogir mewn cysylltiad ag unrhyw rai o'r swyddogaethau hynny.

Mae'r gorchymyn hwn yn trosglwyddo'r tir a'r cynnwys sydd gan y Cynulliad ac a bennir yn yr Atodlen i PIC (erthyglau 2 a 3) a hefyd yn trosglwyddo staff penodol a gyflogir gan y Cynulliad i PIC (erthygl 4).