Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Personau Rhagnodedig) (Cymru) 1999.

Maent yn rhagnodi i ba bersonau y gellir rhoi “gwybodaeth am ddisgyblion unigol” o dan adran 537A(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996 (rheoliad 3).

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn rhagnodi pa wybodaeth am ddisgyblion unigol y gellir ei rhoi gan “gydlynwyr gwybodaeth”. Gan gymhwyso'r diffiniad o gydlynydd gwybodaeth yn adran 537A(9) i Gymru, cydlynydd gwybodaeth yw unrhyw gorff sydd, at ddibenion neu mewn cysylltiad â swyddogaethau addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn gyfrifol am gydlynu neu wirio gwybodaeth sy'n ymwneud â disgyblion. Mae'r wybodaeth y cânt ei rhoi o dan y Rheoliadau hyn yn ymwneud â chyflawniad addysgol disgyblion yn unrhyw asesiad Cwricwlwm Cenedlaethol ar ddisgyblion yng nghyfnod allweddol un, dau neu dri, unrhyw bynciau TGAU, unrhyw arholiadau TAG Safon Uwch, unrhyw arholiadau TAG Uwch Gyfrannol, unrhyw bynciau GNVQ ac unrhyw gwrs astudio a roddir i ddisgyblion oedran ysgol gorfodol mewn ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol sy'n arwain at gymhwyster a gymeradwyir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu gan gorff a ddynodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 99 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (rheoliad 3(3)).