2004 Rhif 451 (Cy.42)
Y DRETH GYNGOR, CYMRU
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Gofynnol) (Cymru) 2004
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 43(7)(a), 44(4) a 113, o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 19921 ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru2.