(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
O dan Ran II o Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 19884 mae'n ofynnol i awdurdodau bilio yng Nghymru dalu symiau (a elwir yn gyfraniadau ardrethu annomestig) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r rheolau ar gyfer cyfrifo'r symiau hynny wedi'u cynnwys yn Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 19925 (“Rheoliadau 1992”).
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1992 drwy roi lluosydd newydd ym mharagraff 2(12) o Atodlen 2 (Rhagdybiaethau ynglŷn â'r swm gros), ac Atodlen 4 newydd (Ffigurau Poblogaeth Oedolion).