Mae Adran 13B (Trefniadau trosiannol) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Deddf 1992”) yn rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru y pŵer i wneud rheoliadau sy'n gwneud darpariaeth at ddibenion hwyluso newidiadau yn rhwymedigaeth y dreth gyngor a achosir pan ddaw gorchymyn o dan adran 5 (Symiau gwahanol i anheddau mewn bandiau prisio gwahanol) i rym neu, mewn perthynas ag awdurdod bilio yng Nghymru, pan ddaw rhestr o dan adran 22B (Llunio a diweddaru rhestri newydd) o Ddeddf 1992 i rym. Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adran 13B ac maent yn gwneud trefniadau trosiannol ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill 2005 (sef y dyddiad y bydd rhestri adran 22B newydd yn dod i rym yng Nghymru) hyd 31 Mawrth 2008 (“y cyfnod trosiannol”).
Mae rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol bod band prisio (a elwir yn fand prisio trosiannol) yn cael ei ddynodi mewn cysylltiad ag annedd (heblaw annedd sy'n dod, am y tro, o fewn Dosbarth A neu B fel a ragnodir gan Reoliadau'r Dreth Gyngor (Dosbarthau Rhagnodedig o Anheddau) (Cymru) 1998) ar gyfer y cyfnod trosiannol yn unol â rheoliad 4.
Yn rheoliad 3 gwelir o dan ba amgylchiadau y mae band prisio trosiannol i'w ddynodi yn unol â rheoliad 4. Dyma'r amgylchiadau:
rhaid i'r annedd fod yn annedd oedd ar restr brisio ar 31 Mawrth 2005; a
ar 1 Ebrill 2005 rhaid i'r annedd fod wedi codi i fand prisio sydd, o'i gymharu â'r band prisio perthnasol ar neu ar gyfer 31 Mawrth 2005 (“y band prisio gwreiddiol”), ddau fand neu fwy yn uwch; ac
bod y person sy'n atebol am dalu'r dreth gyngor ar yr annedd ar 31 Mawrth 2005 (neu os oes mwy nag un person yn atebol, bod un o'r personau hynny) hefyd yn atebol mewn cysylltiad â'r annedd ar 1 Ebrill 2005 ac ar ryw adeg neu adegau eraill yn ystod y cyfnod trosiannol.
Os newidir y rhestr brisio yn ystod y cyfnod trosiannol fel bod y band prisio ar gyfer annedd yn codi i fand sydd ddau neu fwy yn uwch na'r band prisio gwreiddiol, mae rheoliad 3(4) yn darparu ei bod yn rhaid ymdrin â'r annedd honno fel pe bai'n bodloni'r amgylchiadau y cyfeirir atynt yn (b) uchod. Os yw annedd, o dan reoliad 3(4), i gael ei thrin fel pe bai wedi codi nifer perthnasol o fandiau prisio, sef dau fand neu fwy, mae rheoliad 3(5) yn darparu bod y band uwch i fod yn gymwys o'r dyddiad pryd y newidir y rhestr brisio neu y tybir y'i newidir yn unol â Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Newid Rhestri ac Apelau) 1993.
Yn rheoliad 4, sy'n ddarostyngedig i reoliadau 3(5) a 6, gwelir ar ba sail y dynodir band prisio trosiannol ar gyfer annedd ym mhob un o'r tair blynedd ariannol (neu ran o flwyddyn ariannol o'r fath) yn y cyfnod trosiannol. Dim ond yn achos person sy'n dod o fewn rheoliad 3(2)(c) y mae band prisio trosiannol i'w ddynodi. Mewn blwyddyn ariannol yn y cyfnod trosiannol mae nifer perthnasol y bandiau prisio y bydd annedd yn codi ac sy'n uwch na'r band prisio gwreiddiol, fel a welir yng ngholofn (1) o'r Atodlen, i'w ostwng gan y nifer cyfatebol o fandiau a welir yng ngholofn (2), (3) neu (4) ar gyfer y flwyddyn ariannol honno. Ychwanegir at y band prisio gwreiddiol nifer y bandiau prisio y bydd annedd yn codi ac sy'n deillio o gyfrifo o'r fath er mwyn canfod y band prisio trosiannol sy'n briodol ar gyfer pob blwyddyn ariannol (neu ran o flwyddyn ariannol) yn y cyfnod trosiannol.
Pan fo band prisio trosiannol yn gymwys i annedd, mae rheoliad 5 yn darparu ei fod i'w gymryd yn sail i benderfynu a chyfrifo atebolrwydd dros dalu'r dreth gyngor.
Mae rheoliad 6 yn darparu bod rheoliad 4(6) o Reoliadau'r Dreth Gyngor (Gostyngiadau am Anableddau) 1992 (“Rheoliadau 1992”) i'w ddarllen yn ystod y cyfnod trosiannol fel pe bai'n cynnwys cyfeiriad at reoliadau a wneir o dan adran 13B o Ddeddf 1992 (h.y. y Rheoliadau hyn). Felly, caiff swm y dreth gyngor sy'n daladwy fel y'i cyfrifir o dan reoliad 4 o Reoliadau 1992 ei addasu drwy gyfeirio at y trefniadau trosiannol a wneir gan y Rheoliadau hyn.
Mae'r Tabl yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn yn nodi yng ngholofn (1) nifer y bandiau y bydd annedd yn codi ar 1 Ebrill 2005 ac sy'n berthnasol at ddibenion rheoliad 4. Mae colofnau (2), (3) a (4) o'r Tabl yn nodi'n unol â hynny gan ba nifer cyfatebol o fandiau prisio y gostyngir nifer y bandiau y bydd annedd yn codi fel a welir yng ngholofn (1), a hynny yn y flwyddyn ariannol gyntaf, yr ail flwyddyn ariannol a'r drydedd yn y cyfnod trosiannol.