(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1.

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer parhau i weithredu yng Nghymru Gyfarwyddeb y Comisiwn 96/5/EC ynglŷn â bwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn a bwydydd ar gyfer babanod a phlant ifanc, fel y diwygiwyd y Gyfarwyddeb honno gan Gyfarwyddebau'r Comisiwn 1998/36/EC a 1999/39/EC ac fel y'i diwygiwyd ymhellach yn awr gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2003/13/EC. Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli mewn perthynas â Chymru Reoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc 1997, fel y'u diwygiwyd.

2.

Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Mawrth 2005. Maent —

(a)

yn gwahardd gwerthu bwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn a bwydydd babanod ar gyfer babanod a phlant ifanc oni bai eu bod yn cydymffurfio â'r gofynion ynglŷn â gweithgynhyrchu a chyfansoddiad yn rheoliadau 5 i 7 a'r gofynion ynghylch labelu yn rheoliad 8 (rheoliad 4);

(b)

yn esemptio unrhyw fwyd babanod sy'n llaeth sydd wedi'i fwriadu ar gyfer plant ifanc rhag gofynion y Rheoliadau hyn (rheoliad 3);

(c)

yn pennu'r awdurdodau gorfodi (rheoliad 9);

(ch)

yn creu tramgwydd ac yn rhagnodi cosb (rheoliad 10);

(d)

yn darparu amddiffyniad ynglŷn ag allforion yn unol ag Erthyglau 2 a 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/397/EEC (OJ Rhif L186, 30.6.89, t.23) ar reolaeth swyddogol ar fwydydd (rheoliad 11);

(dd)

yn cymhwyso darpariaethau penodol yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 (rheoliad 12); a

(e)

yn cynnwys darpariaeth ddirymu (rheoliad 13) ac yn gwneud diwygiad canlyniadol (rheoliad 14).

3.

Er mwyn gweithredu Cyfarwyddeb 2003/13/EC mae'r Rheoliadau hyn yn gwahardd gwerthu bwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn a bwydydd babanod ar gyfer babanod a phlant ifanc os yw'r bwydydd hynny yn cynnwys gweddillion plaleiddiaid uwchlaw lefelau penodol. Mae lefelau gwahanol wedi'u pennu, yn dibynnu ar y plaleiddiad o dan sylw (rheoliad 7 ac Atodlenni 6 a 7). Er mwyn gweithredu brawddeg olaf Erthygl 6(2) o Gyfarwyddeb 96/5/EEC fel y'i hamnewidiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 1999/39/EC, mae darpariaeth yn cael ei gwneud ynglŷn â dulliau dadansoddiadol (rheoliad 7(5)).

4.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud rhai mân newidiadau, newidiadau drafftio a newidiadau technegol hefyd, yn enwedig i'r ddarpariaeth sy'n cymhwyso darpariaethau penodol yn Neddf 1990 (rheoliad 12). Mae gan awdurdodau iechyd porthladdoedd rôl bellach ym maes gorfodi (rheoliad 9). Dim ond â mynd yn groes i'r cyfyngiadau ar werthu yn rheoliad 4 y mae'r ddarpariaeth ynglŷn â thramgwyddo yn ymwneud bellach (rheoliad 10).

5.

Mae arfarniad rheoliadol llawn o effaith yr offeryn hwn ar gostau busnes wedi'i baratoi a'r roi yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â Nodyn Trosi sy'n dangos sut mae prif elfennau Cyfarwyddeb 2003/13/EC yn cael eu trosi yn y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.