- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer parhau i weithredu yng Nghymru Gyfarwyddeb y Comisiwn 96/5/EC ynglŷn â bwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn a bwydydd ar gyfer babanod a phlant ifanc, fel y diwygiwyd y Gyfarwyddeb honno gan Gyfarwyddebau'r Comisiwn 1998/36/EC a 1999/39/EC ac fel y'i diwygiwyd ymhellach yn awr gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2003/13/EC. Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli mewn perthynas â Chymru Reoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc 1997, fel y'u diwygiwyd.
2. Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Mawrth 2005. Maent —
(a)yn gwahardd gwerthu bwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn a bwydydd babanod ar gyfer babanod a phlant ifanc oni bai eu bod yn cydymffurfio â'r gofynion ynglŷn â gweithgynhyrchu a chyfansoddiad yn rheoliadau 5 i 7 a'r gofynion ynghylch labelu yn rheoliad 8 (rheoliad 4);
(b)yn esemptio unrhyw fwyd babanod sy'n llaeth sydd wedi'i fwriadu ar gyfer plant ifanc rhag gofynion y Rheoliadau hyn (rheoliad 3);
(c)yn pennu'r awdurdodau gorfodi (rheoliad 9);
(ch)yn creu tramgwydd ac yn rhagnodi cosb (rheoliad 10);
(d)yn darparu amddiffyniad ynglŷn ag allforion yn unol ag Erthyglau 2 a 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/397/EEC (OJ Rhif L186, 30.6.89, t.23) ar reolaeth swyddogol ar fwydydd (rheoliad 11);
(dd)yn cymhwyso darpariaethau penodol yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 (rheoliad 12); a
(e)yn cynnwys darpariaeth ddirymu (rheoliad 13) ac yn gwneud diwygiad canlyniadol (rheoliad 14).
3. Er mwyn gweithredu Cyfarwyddeb 2003/13/EC mae'r Rheoliadau hyn yn gwahardd gwerthu bwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn a bwydydd babanod ar gyfer babanod a phlant ifanc os yw'r bwydydd hynny yn cynnwys gweddillion plaleiddiaid uwchlaw lefelau penodol. Mae lefelau gwahanol wedi'u pennu, yn dibynnu ar y plaleiddiad o dan sylw (rheoliad 7 ac Atodlenni 6 a 7). Er mwyn gweithredu brawddeg olaf Erthygl 6(2) o Gyfarwyddeb 96/5/EEC fel y'i hamnewidiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 1999/39/EC, mae darpariaeth yn cael ei gwneud ynglŷn â dulliau dadansoddiadol (rheoliad 7(5)).
4. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud rhai mân newidiadau, newidiadau drafftio a newidiadau technegol hefyd, yn enwedig i'r ddarpariaeth sy'n cymhwyso darpariaethau penodol yn Neddf 1990 (rheoliad 12). Mae gan awdurdodau iechyd porthladdoedd rôl bellach ym maes gorfodi (rheoliad 9). Dim ond â mynd yn groes i'r cyfyngiadau ar werthu yn rheoliad 4 y mae'r ddarpariaeth ynglŷn â thramgwyddo yn ymwneud bellach (rheoliad 10).
5. Mae arfarniad rheoliadol llawn o effaith yr offeryn hwn ar gostau busnes wedi'i baratoi a'r roi yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â Nodyn Trosi sy'n dangos sut mae prif elfennau Cyfarwyddeb 2003/13/EC yn cael eu trosi yn y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: