Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Fformwla Fabanod a Fformwla Ddilynol 1995, fel y'u diwygiwyd (“Rheoliadau 1995”), mewn perthynas â Chymru. Mae Rheoliadau 1995 yn gymwys i Brydain Fawr. Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu ar gyfer Cymru Gyfarwyddeb y Comisiwn 2003/14/EC (OJ Rhif 41, 14.2.2003, t.37) sy'n diwygio Cyfarwyddeb 91/321/EEC (OJ Rhif L175, 4.7.91, t.35) ar fformwlâu babanod a fformwlâu dilynol. Mae'r Rheoliadau yn dod i rym ar 6 Mawrth 2005.

2.  Er mwyn gweithredu Cyfarwyddeb 2003/14/EC mae'r Rheoliadau —

(a)yn gwahardd gwerthu, neu allforio i drydydd gwledydd, fformwlâu babanod neu fformwlâu dilynol sy'n cynnwys gweddillion plaleiddiaid uwchlaw lefelau penodol. Mae lefelau gwahanol wedi'u pennu yn dibynnu ar y plaleiddiad o dan sylw (rheoliadau 4, 5, 7 a 10 a'r Atodlen); a

(b)yn gwneud rhai diwygiadau canlyniadol (rheoliadau 3 a 6).

3.  Er mwyn gweithredu brawddeg olaf Erthygl 6(2) o Gyfarwyddeb 91/321/EEC fel y'i hamnewidiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 1999/50/EC, mae darpariaeth yn cael ei gwneud ynglŷn â dulliau dadansoddiadol ar gyfer penderfynu lefelau gweddillion plaleiddiaid (rheoliad 7).

4.  Mae'r Rheoliadau hefyd —

(a)yn rhoi rôl ym maes gorfodi i awdurdodau iechyd porthladdoedd (rheoliad 8); a

(b)yn gwneud rhai newidiadau technegol i'r ddarpariaeth sy'n cymhwyso darpariaethau amrywiol Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (rheoliad 9).

5.  Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi a'i roi yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â Nodyn Trosi sy'n nodi sut mae prif elfennau Cyfarwyddeb 2003/14/EC yn cael eu trosi yn y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.