RHAN IIICAFFAEL A MEDDU AR DIR

Meddu ar dir dros dro

Defnyddio tir dros dro i adeiladu gweithfeydd

21.—(1Mewn cysylltiad â chyflawni'r gweithfeydd awdurdodedig, caiff yr ymgymerwr—

(a)mynd ar y tir a ddangosir â Rhif 4 ar blaniau'r tir ac a ddisgrifir yn y cyfeirlyfr a chael meddiant ohono dros dro yn ôl yr angen mewn cysylltiad ag adeiladu'r gweithfeydd awdurdodedig;

(b)cael gwared ar unrhyw adeiladau a phlanhigion o'r tir hwnnw; ac

(c)adeiladu gweithfeydd (gan gynnwys darparu mynedfa) ac adeiladau dros dro ar y tir.

(2Rhaid i'r ymgymerwr roi hysbysiad o'i fwriad i gael mynediad i'r tir i berchenogion a meddianwyr y tir, a hynny heb fod yn llai na 28 o ddiwrnodau cyn iddo fynd ar y tir a chymryd meddiant ohono dros dro o dan yr erthygl hon.

(3Ni chaiff yr ymgymerwr, heb gytundeb perchenogion y tir, barhau i feddu ar unrhyw dir o dan yr erthygl hon ar ddiwedd cyfnod o un flwyddyn o'r dyddiad y cwblhawyd y gweithfeydd awdurdodedig.

(4Cyn rhoi'r gorau i feddu ar dir a feddianwyd ganddo dros dro o dan yr erthygl hon, rhaid i'r ymgymerwr symud pob gwaith dros dro oddi yno ac adfer y tir i safon y mae perchenogion y tir yn rhesymol fodlon â hi; ond nid oes gofyn i'r ymgymerwr ailadeiladu adeilad a symudwyd oddi yno o dan yr erthygl hon.

(5Rhaid i'r ymgymerwr dalu iawndal i berchenogion a meddianwyr y tir a feddianwyd ganddo dros dro o dan yr erthygl hon am unrhyw golled neu ddifrod a achoswyd yn sgil arfer y pwerau a roddir gan yr erthygl hon mewn perthynas â'r tir.

(6Penderfynir ar unrhyw anghydfod o ran hawl person i gael iawndal o dan baragraff (5), neu o ran cyfanswm yr iawndal, o dan Ran I o Ddeddf 1961.

(7Heb ragfarn i erthygl 36, ni fydd dim yn yr erthygl hon yn effeithio ar unrhyw atebolrwydd i dalu iawndal o dan adran 10(2) o Ddeddf 1965 neu o dan unrhyw ddeddfiad arall sy'n ymwneud â cholled neu ddifrod a achosir gan weithredu unrhyw weithfeydd, ac eithrio colled neu ddifrod y mae iawndal yn daladwy ar eu cyfer o dan baragraff (5).

(8Nid yw'r pwerau i gaffael tir yn orfodol a roddir gan y Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw dir sydd wedi'i feddu dros dro o dan baragraff (1), ond nid yw'r ymgymerwr wedi'i eithrio rhag caffael hawliau newydd dros unrhyw ran o'r tir hwnnw o dan erthygl 21.

(9Pan fo ymgymerwr yn meddu ar dir o dan yr erthygl hon, nid yw'n ofynnol iddo gaffael y tir nac unrhyw fuddiant yn y tir.

(10Yn yr erthygl hon, mae “adeilad” (“building”) yn cynnwys strwythur neu unrhyw adeilad arall.