xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn, a wneir yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, yn gwneud cynigion gan Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru yn effeithiol.

Bu i Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru (“y Comisiwn”) adrodd ym mis Mai 2003 ar arolwg a gynhaliwyd ganddo o ran o'r ffin rhwng Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Sir Powys yn ardal Cwm-twrch. Yr oedd yr adroddiad yn argymell newidiadau i ran o'r ffin bresennol, ac effaith y rheini oedd y byddai rhan o gymuned Ystalyfera yn ardal Cwm-twrch (a ddangosir ar y map ffiniau gyda llinellau rhesog du, ac y cyfeirir ati yn y Gorchymyn) sydd yn awr ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, yn mynd yn rhan o gymuned Ystradgynlais yn Sir Powys. Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud yr awgrymiadau hynny'n effeithiol, heb unrhyw addasiad iddynt.

Adneuwyd copïau o'r map ffiniau sy'n dangos y ffin newydd yn swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yng Nghanolfan Ddinesig Port Talbot, yn swyddfeydd Cyngor Sir Powys yn Neuadd y Sir, Llandrindod, Powys ac yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, a gellir edrych arnynt yn ystod oriau gwaith arferol.

Mae Rheoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 (fel y'u diwygiwyd) (“Rheoliadau 1976”), y cyfeirir atynt yn Erthygl 1(2) o'r Gorchymyn hwn, yn cynnwys darpariaethau cysylltiedig, canlyniadol, trosiannol ac atodol ynghylch effaith a gweithredu gorchmynion megis y gorchymyn hwn.

Mae newidiadau canlyniadol i adrannau etholiadol Ystalyfera a Chwm-twrch, i gyd-fynd â'r ffin gymunedol newydd, ac i'r ffin rhwng siroedd Gorllewin Morgannwg a Phowys, sydd wedi'u cadw, gan adlewyrchu'r newid i'r ffin rhwng y Fwrdeistref Sirol a'r Sir, sydd, yn eu tro, bellach yn rhan o'r siroedd hynny sydd wedi'u cadw.