2004 Rhif 2746 (Cy.244)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Castell-nedd Port Talbot a Phowys (Cwm-twrch) 2004

Wedi'i wneud

Yn dod i rym yn unol ag Erthygl 1(2)

Mae Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru, ac yntau wedi cyflwyno adroddiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 19721, dyddiedig Mai 2003 ynghylch ei adolygiad o ran o'r ffin rhwng Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Sir Powys yn ardal Cwm-twrch, ynghyd â chynigion a ffurfiwyd gan y Comisiwn;

A Chynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi penderfynu gwneud y cynigion yn effeithiol heb eu haddasu;

A chan fod mwy na chwech wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu cyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

Yn awr, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac sydd wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru2, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn: