Enwi a chychwyn1

1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Castell-nedd Port Talbot a Phowys (Cwm-twrch) 2004.

2

Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2005, sef y diwrnod penodedig at ddibenion y Rheoliadau, gyda'r eithriad bod rheoliad 4(1) o'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 1 Rhagfyr 2004.

Dehongli2

Ystyr “y map ffiniau” (“the boundary map”) yw'r map a baratowyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac sydd wedi'i farcio “Map Ffiniau Gorchymyn Castell-nedd Port Talbot a Phowys (Cwm-twrch) 2004” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;

  • ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 fel y'i diwygiwyd3.

Newidiadau i'r Ffiniau Sirol3

Mae'r ffin rhwng Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Sir Powys yn ardal Cwm-twrch wedi'i newid yn unol ag Erthygl 4.

Ffin Sirol newydd4

Mae'r ffin rhwng y rhannau hynny o Fwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Sir Powys yn ardal Cwm-twrch, a ddangosir ar y map ffiniau, i gynnwys yr hyn a ddangosir ar y map ffiniau fel “Ffin Sirol Newydd/Ffin Newydd Sir wedi'i Chadw”, gyda'r canlyniad bod yr ardal o dir a ddangosir gyda llinellau rhesog du ar y map ffiniau i'w chynnwys yn Sir Powys yn lle ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

Newid canlyniadol i adrannau etholiadol5

Newidir ffiniau ward Ystalyfera yng nghymuned Ystalyfera (sy'n ffurfio rhan o ardal etholiadol Ystalyfera), a ward Cwm-twrch yng nghymuned Ystradgynlais (yn ardal etholiadol Cwm-twrch) fel eu bod yn cyd-fynd â'r ffin fel y'i diwygiwyd gan erthygl 4.

Newid canlyniadol i Ffin Siroedd Wedi'u Cadw6

Mae ffiniau siroedd Gorllewin Morgannwg a Phowys, sef y siroedd sydd wedi'u cadw, wedi'u newid er mwyn iddynt gyd-fynd â'r ffin rhwng Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Sir Powys fel y'i diwygiwyd gan erthygl 4.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Sue EssexY Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus