Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach, mewn perthynas â Chymru, Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau a Cheisiadau Tybiedig) 1989 (“Rheoliadau 1989”).

Effaith y Rheoliadau hyn yw cynyddu oddeutu 10% o 8 Tachwedd 2004 ymlaen ar yr holl ffioedd sy'n daladwy o dan Reoliadau 1989.

Mae Rheoliad 2 yn diwygio'r ffioedd sy'n daladwy o dan reoliadau 10A ac 11A o Reoliadau 1989 a Rhan I o Atodlen 2 iddynt. Nodir graddfeydd ffioedd newydd yn lle'r hen rai a oedd yn daladwy o dan Ran II o Atodlen 1, ac Atodlen 2, i Reoliadau 1989 yn yr Atodlenni i'r Rheoliadau hyn.

Ac eithrio dirymiad paragraff 11 o Ran I o Atodlen 1 i Reoliadau 1989 (sy'n ymwneud â darpariaeth sydd wedi'i disbyddu yn Neddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990), dim ond swm y ffioedd sy'n cael ei newid ac nid oes unrhyw newid i'r categorïau datblygu na'r sail gyfrifo.

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau a Cheisiadau Tybiedig) (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/2258) (Cy.222).