2004 Rhif 2736 (Cy.243)
CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau a Cheisiadau Tybiedig) (Diwygio) (Cymru) 2004
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 303 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 19901, ac sydd bellach yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru2, a phob pŵer arall sy'n galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: