2004 Rhif 2734 (Cy.241)
Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Samplu a Dadansoddi) (Diwygio) (Cymru) 2004
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 66(1), 77(4), 78(6) a 84 o Ddeddf Amaethyddiaeth 19701, ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol o dan adran 84(1) o'r Ddeddf honno a chan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau ar faterion diogelwch bwyd2, ac yntau'n cael ei ddynodi3 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19724) mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud â bwyd anifeiliaid a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd neu fwyd anifeiliaid a roddir iddynt, a thrwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran ddiwethaf uchod (i'r graddau na ellir gwneud y Rheoliadau hyn o dan bwerau Deddf Amaethyddiaeth 1970 a grybwyllir uchod), yn gwneud y Rheoliadau canlynol: