- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
3.—(1) At ddibenion adran 10(2) o'r Ddeddf, ffurf y gorchymyn prynu gorfodol (heblaw gorchymyn prynu gorfodol clirio) y mae'n rhaid ei defnyddio yw—
(a)Ffurf 1; neu
(b)os yw'r gorchymyn yn darparu ar gyfer breinio tir a roddir yn gyfnewid yn unol ag adran 19 o'r Ddeddf, neu baragraff 6 o Atodlen 3 iddi (tir comin, mannau agored etc.), Ffurf 2; neu
(c)os nad yw'r gorchymyn yn darparu ar gyfer breinio tir a roddir yn gyfnewid yn unol ag adran 19 o'r Ddeddf neu baragraff 6 o Atodlen 3 iddi, ond yn darparu ar gyfer rhyddhau'r tir a brynwyd o'r hawliau, ymddiriedolaethau a nodweddion yn unol â'r adran honno neu'r paragraff hwnnw, Ffurf 3.
(2) At ddibenion adran 10(2), ffurf y gorchymyn prynu gorfodol clirio y mae'n rhaid ei defnyddio yw—
(a)Ffurf 4; neu
(b)os yw'r gorchymyn yn darparu ar gyfer breinio tir a roddir yn gyfnewid yn unol ag adran 19 o'r Ddeddf, neu baragraff 6 o Atodlen 3 iddi (tir comin, mannau agored etc.), Ffurf 5; neu
(c)os nad yw'r gorchymyn yn darparu ar gyfer breinio tir a roddir yn gyfnewid yn unol ag adran 19 o'r Ddeddf neu baragraff 6 o Atodlen 3 iddi, ond yn darparu ar gyfer rhyddhau'r tir a brynwyd o'r hawliau, ymddiriedolaethau a nodweddion yn unol â'r adran honno neu'r paragraff hwnnw, Ffurf 6.
(3) At ddibenion—
(a)adran 11(1) o'r Ddeddf a pharagraff 2(1) o Atodlen 1 iddi, ffurf yr hysbysiad mewn papur newydd; a
(b)adran 11(3) o'r Ddeddf a pharagraff 2(3) o Atodlen 1 iddi, ffurf yr hysbysiad sydd i'w gosod ar neu gerllaw'r tir sydd yn y gorchymyn,
y mae'n rhaid ei defnyddio yw Ffurf 7.
(4) Yn ddarostyngedig i reoliad 4 —
(a)at ddibenion adran 12(1) o'r Ddeddf a paragraff 3(1) o Atodlen 1 iddi, ffurf yr hysbysiad i berson cymwys(1) y mae'n rhaid ei defnyddio yw Ffurf 8; neu
(b)os gwneir y gorchymyn o dan adran 121 neu 125 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(2) ar ran prif gyngor(3) neu gyngor cymuned, neu yn unol â chytundeb o dan adran 8 o Ddeddf Priffyrdd 1980(4)) ar ran awdurdod priffyrdd(4), y ffurf y mae'n rhaid ei defnyddio yw Ffurf 9.
(5) At ddibenion adran 15 o'r Ddeddf a pharagraff 6 o Atodlen 1 iddi, ffurf yr hysbysiad o gadarnhau (5)) neu wneud (6) y mae'n rhaid ei defnyddio yw Ffurf 10, ac eithrio pan wneir y cadarnhau gan yr awdurdod caffael yn unol ag adran 14A o'r Ddeddf, ac yn yr achos hwnnw y ffurf y mae'n rhaid ei defnyddio yw Ffurf 11.
(6) At ddibenion adran 22 o'r Ddeddf a pharagraff 9 o Atodlen 3 iddi, ffurf yr hysbysiad mewn papur newydd, sy'n datgan bod tystysgrif wedi cael ei rhoi o dan adran 16 neu 19 o'r Ddeddf neu baragraff 3 neu 6 o Atodlen 3 iddi, y mae'n rhaid ei defnyddio yw Ffurf 12.
I gael y diffiniad o “qualifying person”, gweler adran 12(2) o Ddeddf Caffael Tir 1981 a pharagraff 3(2) o Atodlen 1 iddi.
I gael y diffiniad o “principal council”, gweler adran 270 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
I gael ystyr “confirmation notice”, gweler adran 15(4) o Ddeddf Caffael Tir 1981.
I gael y diffiniad o “making notice”, gweler adran 6(4) o Atodlen 1 i Ddeddf Caffael Tir 1981.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: