(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn ailddeddfu, gyda diwygiadau, Reoliadau Prynu Tir yn Orfodol 1994 (O.S. 1994/2145) drwy ragnodi ffurfiau i'w defnyddio mewn cysylltiad â phrynu tir yn orfodol, a phrynu'n orfodol hawliau newydd dros dir, a'r prynu hwnnw yn brynu sy'n ddarostyngedig i'r gweithdrefnau a geir yn Neddf Caffael Tir 1981 (“Deddf 1981”) os yr awdurdod caffael neu'r awdurdod cadarnhau yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”).
Mae'r diwygiadau yn cymryd sylw o'r newidiadau deddfwriaethol yn Neddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p.5) ac yn gwneud mân newidiadau drafftio.
Prif nodweddion y diwygiadau hynny yw darparu—
a
ffurfiau a ragnodwyd ar gyfer categori estynedig o berson (y cyfeirir ato fel “person cymwys”) y mae'n rhaid cyflwyno hysbysiad iddo o wneud gorchymyn prynu gorfodol (adran 12(1) o Ddeddf 1981). Diwygir y ffurfiau rhagnodedig er mwyn cynnwys y categori estynedig hwn yn yr Atodlen i orchymyn prynu gorfodol (Ffurfiau 1 i 6);
b
ffurf a ragnodwyd ar gyfer hysbysiad o wneud neu baratoi, ar ffurf drafft, orchymyn prynu gorfodol sydd i'w lynu wrth wrthrych neu wrthrychau amlwg ar neu gerllaw'r tir sydd yn y gorchymyn (adran 11(3) o Ddeddf 1981 a pharagraff 2(3) o Atodlen 1 iddi) (Ffurf 7). Yr un ffurf ragnodedig yw hon â'r un ar gyfer hysbysiad mewn papur newydd sy'n hysbysebu'r gorchymyn prynu gorfodol;
c
ffurf a ragnodwyd ar gyfer hysbysiad bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi cadarnhau neu wneud gorchymyn prynu gorfodol sydd i'w lynu wrth wrthrych neu wrthrychau amlwg ar neu gerllaw'r tir sydd yn y gorchymyn prynu gorfodol (adran 15(1)(b) o Ddeddf 1981 a pharagraff 6(1)(b) o Atodlen 1 iddi) (Ffurf 10). Yr un ffurf ragnodedig yw hon â'r un ar gyfer hysbysiad mewn papur newydd sy'n hysbysebu cadarnhau neu wneud y gorchymyn prynu gorfodol; ac
ch
ffurf a ragnodwyd ar gyfer hysbysiad cadarnhau pan fydd yr awdurod caffael yn cadarnhau gorchymyn prynu gorfodol na chafodd ei wrthwynebu yn dilyn hysbysiad gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol ag adran 14A o Ddeddf 1981 (Ffurf 11).
Mae'r ffurfiau a geir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn yn galluogi awdurdod caffael i ddefnyddio'r Gymraeg a/neu'r Saesneg.