Search Legislation

Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Ffurfiau Rhagnodedig) (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) 2004

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn ailddeddfu, gyda diwygiadau, Reoliadau Prynu Tir yn Orfodol 1994 (O.S. 1994/2145) drwy ragnodi ffurfiau i'w defnyddio mewn cysylltiad â phrynu tir yn orfodol, a phrynu'n orfodol hawliau newydd dros dir, a'r prynu hwnnw yn brynu sy'n ddarostyngedig i'r gweithdrefnau a geir yn Neddf Caffael Tir 1981 (“Deddf 1981”) os yr awdurdod caffael neu'r awdurdod cadarnhau yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”).

Mae'r diwygiadau yn cymryd sylw o'r newidiadau deddfwriaethol yn Neddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p.5) ac yn gwneud mân newidiadau drafftio.

Prif nodweddion y diwygiadau hynny yw darparu—

(a)ffurfiau a ragnodwyd ar gyfer categori estynedig o berson (y cyfeirir ato fel “person cymwys”) y mae'n rhaid cyflwyno hysbysiad iddo o wneud gorchymyn prynu gorfodol (adran 12(1) o Ddeddf 1981). Diwygir y ffurfiau rhagnodedig er mwyn cynnwys y categori estynedig hwn yn yr Atodlen i orchymyn prynu gorfodol (Ffurfiau 1 i 6);

(b)ffurf a ragnodwyd ar gyfer hysbysiad o wneud neu baratoi, ar ffurf drafft, orchymyn prynu gorfodol sydd i'w lynu wrth wrthrych neu wrthrychau amlwg ar neu gerllaw'r tir sydd yn y gorchymyn (adran 11(3) o Ddeddf 1981 a pharagraff 2(3) o Atodlen 1 iddi) (Ffurf 7). Yr un ffurf ragnodedig yw hon â'r un ar gyfer hysbysiad mewn papur newydd sy'n hysbysebu'r gorchymyn prynu gorfodol;

(c)ffurf a ragnodwyd ar gyfer hysbysiad bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi cadarnhau neu wneud gorchymyn prynu gorfodol sydd i'w lynu wrth wrthrych neu wrthrychau amlwg ar neu gerllaw'r tir sydd yn y gorchymyn prynu gorfodol (adran 15(1)(b) o Ddeddf 1981 a pharagraff 6(1)(b) o Atodlen 1 iddi) (Ffurf 10). Yr un ffurf ragnodedig yw hon â'r un ar gyfer hysbysiad mewn papur newydd sy'n hysbysebu cadarnhau neu wneud y gorchymyn prynu gorfodol; ac

(ch)ffurf a ragnodwyd ar gyfer hysbysiad cadarnhau pan fydd yr awdurod caffael yn cadarnhau gorchymyn prynu gorfodol na chafodd ei wrthwynebu yn dilyn hysbysiad gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol ag adran 14A o Ddeddf 1981 (Ffurf 11).

Mae'r ffurfiau a geir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn yn galluogi awdurdod caffael i ddefnyddio'r Gymraeg a/neu'r Saesneg.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources