2004 Rhif 2732 (Cy.239)
Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Ffurfiau Rhagnodedig) (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) 2004
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”), drwy arfer ei bwerau yn adrannau 7(2), 10(2), 11(1) a (3), 12(1), 15(5) a 22 o Ddeddf Caffael Tir 1981 a pharagraffau 2(1) a (3), 3(1) a 6(5) o Atodlen 1 a pharagraff 9 o Atodlen 3 iddi (“y Ddeddf”)1, a phob pŵ er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn2:
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Ffurfiau Rhagnodedig) (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) 2004 a deuant i rym ar 31 Hydref 2004.
2
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i orchymyn prynu gorfodol—
a
sy'n ddarostyngedig i gadarnhad gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan Ran 2 o'r Ddeddf ac nad yw'r awdurdod caffael, cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, wedi cyhoeddi hysbysiad ar wneud y gorchymyn prynu gorfodol yn unol ag adran 11(1) o'r Ddeddf; neu
b
a baratowyd ar ffurf drafft gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan baragraff 1 o Atodlen 1 i'r Ddeddf ac nad yw'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, wedi cyhoeddi hysbysiad bod gorchymyn prynu gorfodol drafft wedi'i baratoi yn unol â pharagraff 2(1) o Atodlen 1 i'r Ddeddf.
Dehongli2
1
Yn y Rheoliadau hyn—
2
Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at ffurf â Rhif yn gyfeiriad at—
a
y ffurf sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn;
b
ffurf a addaswyd, yn ôl y gofyn, o'r ffurf honno sy'n dwyn y Rhif hwnnw er mwyn bodloni amgylchiadau achos penodol; neu
c
ffurf y mae ei heffaith yn sylweddol debyg i'r ffurf honno, p'un ai a chafodd ei haddasu ai peidio; ac
ch
mewn perthynas â ffurf a ganiateir gan is-baragraffau (a) i (c) uchod, y ffurf honno yn Gymraeg neu'n Saesneg, neu'r ddwy iaith.
3
Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at adran â Rhif yn gyfeiriad at yr adran honno yn y Ddeddf ac mae unrhyw gyfeiriad at Atodlen â Rhif yn gyfeiriad at yr Atodlen honno i'r Ddeddf.
Ffurfiau rhagnodedig mewn cysylltiad â gorchmynion prynu gorfodol3
1
At ddibenion adran 10(2) o'r Ddeddf, ffurf y gorchymyn prynu gorfodol (heblaw gorchymyn prynu gorfodol clirio) y mae'n rhaid ei defnyddio yw—
a
Ffurf 1; neu
b
os yw'r gorchymyn yn darparu ar gyfer breinio tir a roddir yn gyfnewid yn unol ag adran 19 o'r Ddeddf, neu baragraff 6 o Atodlen 3 iddi (tir comin, mannau agored etc.), Ffurf 2; neu
c
os nad yw'r gorchymyn yn darparu ar gyfer breinio tir a roddir yn gyfnewid yn unol ag adran 19 o'r Ddeddf neu baragraff 6 o Atodlen 3 iddi, ond yn darparu ar gyfer rhyddhau'r tir a brynwyd o'r hawliau, ymddiriedolaethau a nodweddion yn unol â'r adran honno neu'r paragraff hwnnw, Ffurf 3.
2
At ddibenion adran 10(2), ffurf y gorchymyn prynu gorfodol clirio y mae'n rhaid ei defnyddio yw—
a
Ffurf 4; neu
b
os yw'r gorchymyn yn darparu ar gyfer breinio tir a roddir yn gyfnewid yn unol ag adran 19 o'r Ddeddf, neu baragraff 6 o Atodlen 3 iddi (tir comin, mannau agored etc.), Ffurf 5; neu
c
os nad yw'r gorchymyn yn darparu ar gyfer breinio tir a roddir yn gyfnewid yn unol ag adran 19 o'r Ddeddf neu baragraff 6 o Atodlen 3 iddi, ond yn darparu ar gyfer rhyddhau'r tir a brynwyd o'r hawliau, ymddiriedolaethau a nodweddion yn unol â'r adran honno neu'r paragraff hwnnw, Ffurf 6.
3
At ddibenion—
a
adran 11(1) o'r Ddeddf a pharagraff 2(1) o Atodlen 1 iddi, ffurf yr hysbysiad mewn papur newydd; a
b
adran 11(3) o'r Ddeddf a pharagraff 2(3) o Atodlen 1 iddi, ffurf yr hysbysiad sydd i'w gosod ar neu gerllaw'r tir sydd yn y gorchymyn,
y mae'n rhaid ei defnyddio yw Ffurf 7.
4
Yn ddarostyngedig i reoliad 4 —
a
at ddibenion adran 12(1) o'r Ddeddf a paragraff 3(1) o Atodlen 1 iddi, ffurf yr hysbysiad i berson cymwys5 y mae'n rhaid ei defnyddio yw Ffurf 8; neu
5
At ddibenion adran 15 o'r Ddeddf a pharagraff 6 o Atodlen 1 iddi, ffurf yr hysbysiad o gadarnhau 10) neu wneud 11 y mae'n rhaid ei defnyddio yw Ffurf 10, ac eithrio pan wneir y cadarnhau gan yr awdurdod caffael yn unol ag adran 14A o'r Ddeddf, ac yn yr achos hwnnw y ffurf y mae'n rhaid ei defnyddio yw Ffurf 11.
6
At ddibenion adran 22 o'r Ddeddf a pharagraff 9 o Atodlen 3 iddi, ffurf yr hysbysiad mewn papur newydd, sy'n datgan bod tystysgrif wedi cael ei rhoi o dan adran 16 neu 19 o'r Ddeddf neu baragraff 3 neu 6 o Atodlen 3 iddi, y mae'n rhaid ei defnyddio yw Ffurf 12.
Darpariaethau ychwanegol o ran adeiladau rhestredig4
Os caiff gorchymyn prynu gorfodol ei wneud o dan adran 47 o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig (caffaeliad gorfodol o adeiladau rhestredig y mae angen eu trwsio), rhaid cynnwys —
a
yn Ffurf 1, pan fo'n briodol, y paragraff â Rhif 4 yn y Ffurf honno;
b
ar ddiwedd paragraff 2 o Ffurf 8—
i
ym mhob achos, y paragraffau ychwanegol yn y nodiadau i Ffurf 8 a rifwyd 3 a 5;
ii
yn unrhyw achos lle mae angen hysbysiad yn ôl adran 50(3) o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig (lleiafswm iawndal yn achos adeilad a adawyd i ddadfeilio'n fwriadol) i gynnwys datganiad bod yr awdurdod neu'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cynnwys cyfarwyddyd ar gyfer lleiafswm iawndal, y paragraff ychwanegol yn y nodiadau i Ffurf 8 â Rhif 4,
ac mae gweddill y paragraffau i'w hailrifo'n unol â hynny.
Dirymu5
Dirymir Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol 199412 i'r graddau y byddent yn gymwys i orchymyn prynu gorfodol y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 199813.
ATODLEN
Ffurf 1 | Gorchymyn prynu gorfodol (heblaw gorchymyn prynu gorfodol clirio). |
Ffurf 2 | Gorchymyn prynu gorfodol (heblaw gorchymyn prynu gorfodol clirio) sy'n darparu ar gyfer breinio tir cyfnewid. |
Ffurf 3 | Gorchymyn prynu gorfodol (heblaw gorchymyn prynu gorfodol clirio) nad yw'n darparu ar gyfer breinio tir cyfnewid, ond y mae'n darparu ar gyfer rhyddhau o hawliau, ymddiriedolaethau a nodweddion. |
Ffurf 4 | Gorchymyn prynu gorfodol clirio. |
Ffurf 5 | Gorchymyn prynu gorfodol clirio sy'n darparu ar gyfer breinio tir cyfnewid. |
Ffurf 6 | Gorchymyn prynu gorfodol clirio nad yw'n darparu ar gyfer breinio tir cyfnewid, ond y mae'n darparu ar gyfer rhyddhau o hawliau, ymddiriedolaethau a nodweddion. |
Ffurf 7 | Hysbysiad ynghylch gorchymyn prynu gorfodol ar gyfer cyhoeddiad papur newydd ac arddangos ar neu gerllaw'r tir sy'n destun y gorchymyn. |
Ffurf 8 | Hysbysiad i berson cymwys o dir (neu dir sy'n ddarostyngedig i hawliau newydd) a geir mewn gorchymyn prynu gorfodol. |
Ffurf 9 | Hysbysiad i berson cymwys o dir (neu dir sy'n ddarostyngedig i hawliau newydd) a geir mewn gorchymyn prynu gorfodol a wneir ar ran cyngor. |
Ffurf 10 | Hysbysiad o wneud neu gadarnau gorchymyn prynu gorfodol (gan awdurdod nad yw'n awdurdod caffael). |
Ffurf 11 | Hysbysiad o gadarnau gorchymyn prynu gorfodol gan awdurdod caffael. |
Ffurf 12 | Hysbysiad papur newydd o roi tystysgrif o dan adran 16 neu 19 o Ddeddf Caffael Tir 1981 neu baragraff 3 neu 6 o Atodlen 3 iddi. |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)