Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Ffurfiau Rhagnodedig) (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) 2004 a deuant i rym ar 31 Hydref 2004.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i orchymyn prynu gorfodol—

a

sy'n ddarostyngedig i gadarnhad gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan Ran 2 o'r Ddeddf ac nad yw'r awdurdod caffael, cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, wedi cyhoeddi hysbysiad ar wneud y gorchymyn prynu gorfodol yn unol ag adran 11(1) o'r Ddeddf; neu

b

a baratowyd ar ffurf drafft gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan baragraff 1 o Atodlen 1 i'r Ddeddf ac nad yw'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, wedi cyhoeddi hysbysiad bod gorchymyn prynu gorfodol drafft wedi'i baratoi yn unol â pharagraff 2(1) o Atodlen 1 i'r Ddeddf.

Dehongli2

1

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “y Ddeddf Adeiladau Rhestredig ” (“the Listed Buildings Act”) yw Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 19903; ac

  • ystyr “gorchymyn prynu gorfodol clirio” (“clearance compulsory purchase order”) yw gorchymyn prynu gorfodol a wnaed yn unol ag adran 290 o Ddeddf Tai 19854.

2

Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at ffurf â Rhif yn gyfeiriad at—

a

y ffurf sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn;

b

ffurf a addaswyd, yn ôl y gofyn, o'r ffurf honno sy'n dwyn y Rhif hwnnw er mwyn bodloni amgylchiadau achos penodol; neu

c

ffurf y mae ei heffaith yn sylweddol debyg i'r ffurf honno, p'un ai a chafodd ei haddasu ai peidio; ac

ch

mewn perthynas â ffurf a ganiateir gan is-baragraffau (a) i (c) uchod, y ffurf honno yn Gymraeg neu'n Saesneg, neu'r ddwy iaith.

3

Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at adran â Rhif yn gyfeiriad at yr adran honno yn y Ddeddf ac mae unrhyw gyfeiriad at Atodlen â Rhif yn gyfeiriad at yr Atodlen honno i'r Ddeddf.

Ffurfiau rhagnodedig mewn cysylltiad â gorchmynion prynu gorfodol3

1

At ddibenion adran 10(2) o'r Ddeddf, ffurf y gorchymyn prynu gorfodol (heblaw gorchymyn prynu gorfodol clirio) y mae'n rhaid ei defnyddio yw—

a

Ffurf 1; neu

b

os yw'r gorchymyn yn darparu ar gyfer breinio tir a roddir yn gyfnewid yn unol ag adran 19 o'r Ddeddf, neu baragraff 6 o Atodlen 3 iddi (tir comin, mannau agored etc.), Ffurf 2; neu

c

os nad yw'r gorchymyn yn darparu ar gyfer breinio tir a roddir yn gyfnewid yn unol ag adran 19 o'r Ddeddf neu baragraff 6 o Atodlen 3 iddi, ond yn darparu ar gyfer rhyddhau'r tir a brynwyd o'r hawliau, ymddiriedolaethau a nodweddion yn unol â'r adran honno neu'r paragraff hwnnw, Ffurf 3.

2

At ddibenion adran 10(2), ffurf y gorchymyn prynu gorfodol clirio y mae'n rhaid ei defnyddio yw—

a

Ffurf 4; neu

b

os yw'r gorchymyn yn darparu ar gyfer breinio tir a roddir yn gyfnewid yn unol ag adran 19 o'r Ddeddf, neu baragraff 6 o Atodlen 3 iddi (tir comin, mannau agored etc.), Ffurf 5; neu

c

os nad yw'r gorchymyn yn darparu ar gyfer breinio tir a roddir yn gyfnewid yn unol ag adran 19 o'r Ddeddf neu baragraff 6 o Atodlen 3 iddi, ond yn darparu ar gyfer rhyddhau'r tir a brynwyd o'r hawliau, ymddiriedolaethau a nodweddion yn unol â'r adran honno neu'r paragraff hwnnw, Ffurf 6.

3

At ddibenion—

a

adran 11(1) o'r Ddeddf a pharagraff 2(1) o Atodlen 1 iddi, ffurf yr hysbysiad mewn papur newydd; a

b

adran 11(3) o'r Ddeddf a pharagraff 2(3) o Atodlen 1 iddi, ffurf yr hysbysiad sydd i'w gosod ar neu gerllaw'r tir sydd yn y gorchymyn,

y mae'n rhaid ei defnyddio yw Ffurf 7.

4

Yn ddarostyngedig i reoliad 4 —

a

at ddibenion adran 12(1) o'r Ddeddf a paragraff 3(1) o Atodlen 1 iddi, ffurf yr hysbysiad i berson cymwys5 y mae'n rhaid ei defnyddio yw Ffurf 8; neu

b

os gwneir y gorchymyn o dan adran 121 neu 125 o Ddeddf Llywodraeth Leol 19726 ar ran prif gyngor7 neu gyngor cymuned, neu yn unol â chytundeb o dan adran 8 o Ddeddf Priffyrdd 19808) ar ran awdurdod priffyrdd8, y ffurf y mae'n rhaid ei defnyddio yw Ffurf 9.

5

At ddibenion adran 15 o'r Ddeddf a pharagraff 6 o Atodlen 1 iddi, ffurf yr hysbysiad o gadarnhau 10) neu wneud 11 y mae'n rhaid ei defnyddio yw Ffurf 10, ac eithrio pan wneir y cadarnhau gan yr awdurdod caffael yn unol ag adran 14A o'r Ddeddf, ac yn yr achos hwnnw y ffurf y mae'n rhaid ei defnyddio yw Ffurf 11.

6

At ddibenion adran 22 o'r Ddeddf a pharagraff 9 o Atodlen 3 iddi, ffurf yr hysbysiad mewn papur newydd, sy'n datgan bod tystysgrif wedi cael ei rhoi o dan adran 16 neu 19 o'r Ddeddf neu baragraff 3 neu 6 o Atodlen 3 iddi, y mae'n rhaid ei defnyddio yw Ffurf 12.

Darpariaethau ychwanegol o ran adeiladau rhestredig4

Os caiff gorchymyn prynu gorfodol ei wneud o dan adran 47 o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig (caffaeliad gorfodol o adeiladau rhestredig y mae angen eu trwsio), rhaid cynnwys —

a

yn Ffurf 1, pan fo'n briodol, y paragraff â Rhif 4 yn y Ffurf honno;

b

ar ddiwedd paragraff 2 o Ffurf 8—

i

ym mhob achos, y paragraffau ychwanegol yn y nodiadau i Ffurf 8 a rifwyd 3 a 5;

ii

yn unrhyw achos lle mae angen hysbysiad yn ôl adran 50(3) o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig (lleiafswm iawndal yn achos adeilad a adawyd i ddadfeilio'n fwriadol) i gynnwys datganiad bod yr awdurdod neu'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cynnwys cyfarwyddyd ar gyfer lleiafswm iawndal, y paragraff ychwanegol yn y nodiadau i Ffurf 8 â Rhif 4,

ac mae gweddill y paragraffau i'w hailrifo'n unol â hynny.

Dirymu5

Dirymir Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol 199412 i'r graddau y byddent yn gymwys i orchymyn prynu gorfodol y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 199813.

D.Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol