- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Ffurfiau Rhagnodedig) (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) 2004 a deuant i rym ar 31 Hydref 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i orchymyn prynu gorfodol—
(a)sy'n ddarostyngedig i gadarnhad gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan Ran 2 o'r Ddeddf ac nad yw'r awdurdod caffael, cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, wedi cyhoeddi hysbysiad ar wneud y gorchymyn prynu gorfodol yn unol ag adran 11(1) o'r Ddeddf; neu
(b)a baratowyd ar ffurf drafft gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan baragraff 1 o Atodlen 1 i'r Ddeddf ac nad yw'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, wedi cyhoeddi hysbysiad bod gorchymyn prynu gorfodol drafft wedi'i baratoi yn unol â pharagraff 2(1) o Atodlen 1 i'r Ddeddf.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “y Ddeddf Adeiladau Rhestredig ” (“the Listed Buildings Act”) yw Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990(1); ac
ystyr “gorchymyn prynu gorfodol clirio” (“clearance compulsory purchase order”) yw gorchymyn prynu gorfodol a wnaed yn unol ag adran 290 o Ddeddf Tai 1985(2).
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at ffurf â Rhif yn gyfeiriad at—
(a)y ffurf sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn;
(b)ffurf a addaswyd, yn ôl y gofyn, o'r ffurf honno sy'n dwyn y Rhif hwnnw er mwyn bodloni amgylchiadau achos penodol; neu
(c)ffurf y mae ei heffaith yn sylweddol debyg i'r ffurf honno, p'un ai a chafodd ei haddasu ai peidio; ac
(ch)mewn perthynas â ffurf a ganiateir gan is-baragraffau (a) i (c) uchod, y ffurf honno yn Gymraeg neu'n Saesneg, neu'r ddwy iaith.
(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at adran â Rhif yn gyfeiriad at yr adran honno yn y Ddeddf ac mae unrhyw gyfeiriad at Atodlen â Rhif yn gyfeiriad at yr Atodlen honno i'r Ddeddf.
3.—(1) At ddibenion adran 10(2) o'r Ddeddf, ffurf y gorchymyn prynu gorfodol (heblaw gorchymyn prynu gorfodol clirio) y mae'n rhaid ei defnyddio yw—
(a)Ffurf 1; neu
(b)os yw'r gorchymyn yn darparu ar gyfer breinio tir a roddir yn gyfnewid yn unol ag adran 19 o'r Ddeddf, neu baragraff 6 o Atodlen 3 iddi (tir comin, mannau agored etc.), Ffurf 2; neu
(c)os nad yw'r gorchymyn yn darparu ar gyfer breinio tir a roddir yn gyfnewid yn unol ag adran 19 o'r Ddeddf neu baragraff 6 o Atodlen 3 iddi, ond yn darparu ar gyfer rhyddhau'r tir a brynwyd o'r hawliau, ymddiriedolaethau a nodweddion yn unol â'r adran honno neu'r paragraff hwnnw, Ffurf 3.
(2) At ddibenion adran 10(2), ffurf y gorchymyn prynu gorfodol clirio y mae'n rhaid ei defnyddio yw—
(a)Ffurf 4; neu
(b)os yw'r gorchymyn yn darparu ar gyfer breinio tir a roddir yn gyfnewid yn unol ag adran 19 o'r Ddeddf, neu baragraff 6 o Atodlen 3 iddi (tir comin, mannau agored etc.), Ffurf 5; neu
(c)os nad yw'r gorchymyn yn darparu ar gyfer breinio tir a roddir yn gyfnewid yn unol ag adran 19 o'r Ddeddf neu baragraff 6 o Atodlen 3 iddi, ond yn darparu ar gyfer rhyddhau'r tir a brynwyd o'r hawliau, ymddiriedolaethau a nodweddion yn unol â'r adran honno neu'r paragraff hwnnw, Ffurf 6.
(3) At ddibenion—
(a)adran 11(1) o'r Ddeddf a pharagraff 2(1) o Atodlen 1 iddi, ffurf yr hysbysiad mewn papur newydd; a
(b)adran 11(3) o'r Ddeddf a pharagraff 2(3) o Atodlen 1 iddi, ffurf yr hysbysiad sydd i'w gosod ar neu gerllaw'r tir sydd yn y gorchymyn,
y mae'n rhaid ei defnyddio yw Ffurf 7.
(4) Yn ddarostyngedig i reoliad 4 —
(a)at ddibenion adran 12(1) o'r Ddeddf a paragraff 3(1) o Atodlen 1 iddi, ffurf yr hysbysiad i berson cymwys(3) y mae'n rhaid ei defnyddio yw Ffurf 8; neu
(b)os gwneir y gorchymyn o dan adran 121 neu 125 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(4) ar ran prif gyngor(5) neu gyngor cymuned, neu yn unol â chytundeb o dan adran 8 o Ddeddf Priffyrdd 1980(6)) ar ran awdurdod priffyrdd(6), y ffurf y mae'n rhaid ei defnyddio yw Ffurf 9.
(5) At ddibenion adran 15 o'r Ddeddf a pharagraff 6 o Atodlen 1 iddi, ffurf yr hysbysiad o gadarnhau (7)) neu wneud (8) y mae'n rhaid ei defnyddio yw Ffurf 10, ac eithrio pan wneir y cadarnhau gan yr awdurdod caffael yn unol ag adran 14A o'r Ddeddf, ac yn yr achos hwnnw y ffurf y mae'n rhaid ei defnyddio yw Ffurf 11.
(6) At ddibenion adran 22 o'r Ddeddf a pharagraff 9 o Atodlen 3 iddi, ffurf yr hysbysiad mewn papur newydd, sy'n datgan bod tystysgrif wedi cael ei rhoi o dan adran 16 neu 19 o'r Ddeddf neu baragraff 3 neu 6 o Atodlen 3 iddi, y mae'n rhaid ei defnyddio yw Ffurf 12.
4. Os caiff gorchymyn prynu gorfodol ei wneud o dan adran 47 o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig (caffaeliad gorfodol o adeiladau rhestredig y mae angen eu trwsio), rhaid cynnwys —
(a)yn Ffurf 1, pan fo'n briodol, y paragraff â Rhif 4 yn y Ffurf honno;
(b)ar ddiwedd paragraff 2 o Ffurf 8—
(i)ym mhob achos, y paragraffau ychwanegol yn y nodiadau i Ffurf 8 a rifwyd 3 a 5;
(ii)yn unrhyw achos lle mae angen hysbysiad yn ôl adran 50(3) o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig (lleiafswm iawndal yn achos adeilad a adawyd i ddadfeilio'n fwriadol) i gynnwys datganiad bod yr awdurdod neu'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cynnwys cyfarwyddyd ar gyfer lleiafswm iawndal, y paragraff ychwanegol yn y nodiadau i Ffurf 8 â Rhif 4,
ac mae gweddill y paragraffau i'w hailrifo'n unol â hynny.
5. Dirymir Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol 1994(9) i'r graddau y byddent yn gymwys i orchymyn prynu gorfodol y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(10).
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
19 Hydref 2004
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: