Archwilio safleoedd9

1

Caiff yr archwilydd, ar unrhyw adeg, gynnal—

a

archwiliad heb rywun yn gwmni iddo a heb roi rhaghysbysiad ohono i'r awdurdod caffael na'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu; a

b

archwiliad yng nghwmni yr awdurdod caffael a phob un o'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu, neu eu cynrychiolwyr,

o dir sy'n destun i'r gorchymyn prynu gorfodol ac o'r ardal gyfagos.

2

Yn achos archwiliad o dan baragraff (1)(b), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon hysbysiad o ddyddiad ac amser yr archwiliad at yr awdurdod caffael a'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu, fel y bydd yn dod i law dim llai na 5 niwrnod gwaith cyn y dyddiad hwnnw.

3

Nid yw'n ofynnol i'r archwilydd ohirio archwiliad o dan baragraff (1)(b) os na fydd unrhyw berson a grybwyllir yn y paragraff hwnnw yn bresennol ar yr adeg a bennwyd.

4

Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn derbyn cais gan yr awdurdod caffael neu gan un o'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu yn gofyn am archwiliad, a hynny heb fod yn hwyrach na 10 niwrnod gwaith ar ôl y dyddiad dechrau, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol drefnu archwiliad o'r fath.