Sylwadau5
1
Cymerir fod unrhyw ddatganiad y mae'r awdurdod caffael yn ei roi i bawb sy'n parhau i wrthwynebu, ar yr adeg y mae'n rhoi hysbysiad o dan adran 12 neu baragraff 3 o Atodlen 1, yn ffurfio rhan o sylwadau'r awdurdod caffael at ddibenion y weithdrefn sylwadau ysgrifenedig.
2
Rhaid i'r awdurdod caffael roi unrhyw ddatganiad o'r math a grybwyllir ym mharagraff (1) i'r Cynulliad Cenedlaethol, ond caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddiystyru'r datganiad hwnnw os derbyniodd ef fwy na 5 niwrnod gwaith ar ôl y dyddiad dechrau.
3
Bydd y gwrthwynebiad a wnaed i'r Cynulliad Cenedlaethol gan neu ar ran y sawl sy'n parhau i wrthwynebu yn ffurfio rhan o sylwadau'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu at ddibenion y weithdrefn sylwadau ysgrifenedig, ac, os na fydd wedi gwneud hynny eisioes, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon copi o'r gwrthwynebiad at yr awdurdod caffael er mwyn iddo ddod i law ymhen dim mwy na 5 niwrnod gwaith ar ôl y dyddiad dechrau.
4
Caiff yr awdurdod caffael—
a
gwneud sylwadau pellach i gefnogi ei gyflwyniad; neu
b
dewis trin unrhyw ddatganiad o dan baragraff (1) fel ei sylwadau mewn perthynas â'r cyflwyniad at ddibenion is-baragraff (a); ac, os digwydd hynny, rhaid i'r awdurdod caffael hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol a phawb sy'n parhau i wrthwynebu yn unol â hynny.
5
Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddiystyru sylwadau a wnaed o dan baragraff (4) os yw'n derbyn y sylwadau hynny fwy na 14 o ddiwrnodau gwaith ar ôl y dyddiad dechrau.
6
Caiff y sawl sy'n parhau i wrthwynebu—
a
gwneud sylwadau i'r Cynulliad Cenedlaethol yn ychwanegol at y rheini ym mharagraff (3); neu
b
dewis trin y gwrthwynebiad o dan baragraff (3) fel sylwadau'r gwrthwynebydd hwnnw at ddibenion is-baragraff (a); ac, os digwydd hynny, rhaid iddo hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol a'r awdurdod caffael yn unol â hynny.
7
Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddiystyru sylwadau a wnaed o dan baragraff (6) os yw'r sylwadau yn dod i law mwy na 15 o ddiwrnodau gwaith ar ôl iddo anfon copi o'r sylwadau o dan baragraff (4)(a), neu hysbysiad o dan baragraff (4)(b), at y sawl sy'n parhau i wrthwynebu.
8
Caiff yr awdurdod caffael wneud sylwadau i'r Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â sylwadau'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu a wnaed o dan baragraff (6)(a) neu unrhyw sylwadau a wnaed o dan reoliad 6 isod.
9
Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddiystyru sylwadau a wnaed o dan baragraff (8) os daeth y sylwadau i law'r Cynulliad Cenedlaethol—
a
mwy na 10 niwrnod gwaith ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon copi o'r sylwadau o dan baragraff (6)(a) at yr awdurdod caffael; neu
b
mwy na 10 niwrnod gwaith ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon hysbysiad o dan reoliad 6(3) o'r Rheoliadau hyn, os na wnaed sylwadau o dan baragraff (6)(a).
10
Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ofyn i'r awdurdod caffael, a phob un o'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu, ddarparu copïau ychwanegol o sylwadau i'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn unrhyw amserlen resymol y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ei phennu.
11
Er mwyn i'r broses medru cael ei chwblhau'n ddi-oed, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, anfon—
a
copi o unrhyw sylwadau a wnaed gan yr awdurdod caffael at bob un o'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu;
b
copi o unrhyw sylwadau a wnaed gan y sawl sy'n parhau i wrthwynebu at yr awdurdod caffael; ac
c
hysbysiad at bob un o'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu a'r awdurdod caffael na wnaed unrhyw sylwadau eraill o fewn y cyfnod a ganiateir gan y rheoliad hwn.