Hysbysu bod y weithdrefn sylwadau ysgrifenedig yn gymwys4
Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu bod y weithdrefn sylwadau ysgrifenedig yn gymwys, rhaid iddo, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, roi gwybod i bob un o'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu, a'r awdurdod caffael, yn ysgrifenedig am—
a
y dyddiad a fydd yn ddyddiad dechrau ar gyfer y weithdrefn sylwadau ysgrifenedig;
b
y cyfeirnod a roddwyd i'r cyflwyniad;
c
y cyfeiriad y dylid anfon cyfathrebu ysgrifenedig at y Cynulliad Cenedlaethol; ac
ch
teitlau neu ddisgrifiadau y datganiadau sy'n bodoli eisoes a fydd yn cael eu hystyried gan y Cynulliad Cenedlaethol fel sylwadau wrth benderfynu ar y cyflwyniad.