Dehongli2
1
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “anfon” (“send”) yw anfon rhywbeth, gan ragdalu am y post dosbarth cyntaf, sydd wedi'i gyfeirio at y cyfeiriad cywir5 neu at unrhyw gyfeiriad amgen y bydd y derbyniwr yn gofyn amdano;
ystyr “y cyflwyniad” (“the submission”) yw'r cyflwyniad sy'n gofyn am gadarnhau gorchymyn prynu gorfodol o dan Ran II o Ddeddf Caffael Tir 1981 neu sy'n gofyn am wneud gorchymyn prynu gorfodol a baratowyd ar ffurf ddrafft o dan Atodlen 1 i'r Ddeddf honno;
mae “datganiad” (“statement”) yn cynnwys ffotograff, map neu blan, ond yn eithrio datganiadau llafar;
ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Ddydd Nadolig, yn Ddydd Gwener y Groglith nac yn ŵ yl y banc o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 19716;
ystyr “dyddiad dechrau” (“starting date”) yw'r dyddiad dechrau y cyfeirir ato yn rheoliad 4(a);
ystyr “y sawl sy'n parhau i wrthwynebu” (“remaining objector”) yw person sydd â gwrthwynebiad sy'n parhau7); ac
ystyr “sylwadau” (“representations”) yw sylwadau ysgrifenedig, datganiadau a dogfennau ategol.
2
Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at adrannau yn cyfeirio at adrannau Deddf Caffael Tir 1981, ac mae cyfeiriadau at Atodlen 1 yn cyfeirio at Atodlen 1 i'r Ddeddf honno.
3
Os y Cynulliad Cenedlaethol yw'r awdurdod caffael, mae darpariaethau'r Rheoliadau hyn sy'n gofyn am gyfathrebu rhwng y Cynulliad Cenedlaethol a'r awdurdod caffael yn gymwys gyda'r addasiadau hynny y gall fod eu hangen.