Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) 2004 a deuant i rym ar 31 Hydref 2004.

2

Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol, naill ai—

a

yn awdurdod cadarnhau2; neu

b

yn awdurdod priodol3,

ac y mae'n ystyried defnyddio'r weithdrefn sylwadau ysgrifenedig, neu'n ystyried trafodion o dan y weithdrefn honno4.

3

Ni fydd y Rheoliadau hyn yn gymwys os digwydd y canlynol cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym—

a

yn achos paragraff (2)(a), cyhoeddi am y tro cyntaf yr hysbysiad o wneud y gorchymyn prynu gorfodol yn unol ag adran 11(1) o Ddeddf Caffael Tir 1981; neu

b

yn achos paragraff (2)(b), cyhoeddi am y tro cyntaf yr hysbysiad o baratoi'r gorchymyn prynu gorfodol ar ffurf ddrafft yn unol â pharagraff (2) o Atodlen 1 i'r Ddeddf honno.