(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi'r weithdrefn sylwadau ysgrifenedig (“y weithdrefn”) y gellir ei defnyddio wrth benderfynu a ddylid awdurdodi prynu tir yn orfodol os Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) yw'r awdurdod caffael neu gadarnhau ac y mae gweithdrefnau Deddf Caffael Tir 1981 (“y Ddeddf”) yn gymwys.

Gellir penderfynu ar y gwrthwynebiadau o ran cadarnhau gorchymyn prynu gorfodol a wneir o dan Ran II o'r Ddeddf (fel a ddiffinnir yn adran 13A(1) o'r Ddeddf) na chawsant eu tynnu'n ôl ac na ellir eu diystyru (“gwrthwynebiadau sy'n parhau”) yn ôl gweithdrefn a ragnodwyd gan reoliadau (adran 13A o'r Ddeddf). Dyma ddewis amgen i gynnal ymchwiliad, ar yr amod bod pawb sy'n parhau i wrthwynebu yn cydsynio yn y modd a ragnodwyd.

Yn yr un modd, gellir penderfynu ar y gwrthwynebiadau sy'n parhau o ran gwneud gorchymyn prynu gorfodol o dan Atodlen 1 i'r Ddeddf (fel a ddiffinnir ym mharagraff 4A(1) o Atodlen 1 i'r Ddeddf) yn ôl y weithdrefn honno (paragraff 4A o Atodlen 1 i'r Ddeddf).

Mae prif gamau'r weithdrefn yn cynnwys—

a

os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried defnyddio'r weithdrefn, bydd yn anfon ffurflen gydsynio (ar y ffurf a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn) at bawb sy'n parhau i wrthwynebu, gan ofyn am eu cydsyniad ysgrifenedig i ddefnyddio'r weithdrefn (rheoliad 3);

b

dim ond os bydd yr holl wrthwynebwyr hynny yn cydsynio y caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddefnyddio'r weithdrefn. Nid oes rheidrwydd arno i ddefnyddio'r weithdrefn ond, os yw'n penderfynu y dylai'r weithdrefn fod yn gymwys, bydd yn rhoi dyddiad dechrau ar gyfer y weithdrefn (rheoliad 4);

c

bydd unrhyw ddogfennau a gyflwynir gan yr awdurdod caffael i'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu ar adeg gwneud gorchymyn prynu gorfodol neu baratoi gorchymyn o'r fath ar ffurf drafft, ac unrhyw lythyrau neu ddogfennau eraill a roddir i'r Cynulliad Cenedlaethol yn wrthwynebiadau i gadarnhau neu wneud y gorchymyn, yn mynd yn rhan o'r sylwadau a fydd i'w hystyried (rheoliad 5(1) a (2));

ch

oni bai bod yr awdurdod caffael yn dewis peidio â gwneud hynny, caiff wneud sylwadau i gefnogi ei gais (y gellir eu diystyru os derbynnir hwy mwy na 14 o ddiwrnodau gwaith ar ôl y dyddiad dechrau). Anfonir copi o'r sylwadau hynny at bawb sy'n parhau i wrthwynebu (rheoliad 5(4) a (5));

d

caiff unrhyw un sy'n parhau i wrthwynebu ymateb gyda sylwadau (y gellir eu diystyru os derbynnir hwy fwy na 15 o ddiwrnodau gwaith ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon copi o sylwadau'r awdurdod caffael, o dan baragraff (ch) uchod) (rheoliad 5(6) a (7));

dd

caiff yr awdurdod caffael, wrth ymateb i sylwadau rhywun sy'n parhau i wrthwynebu a grybwyllir ym mharagraff (d) uchod, wneud sylwadau pellach (y gellir eu diystyru os derbynnir hwy fwy na 10 niwrnod gwaith ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol neu'r awdurdod caffael, os yw'n wahanol, anfon copi o sylwadau'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu) (rheoliad 5(8) a (9));

e

caiff y Cynulliad Cenedlaethol ganiatáu i unrhyw berson arall wneud sylwadau (y gellir eu diystyru os derbynnir hwy fwy na 14 o ddiwrnodau gwaith ar ôl y dyddiad dechrau a bennwyd i'r awdurdod caffael roi ei sylwadau) (rheoliad 6);

f

mae gan y Cynulliad Cenedlaethol ddisgresiwn i estyn y terfynau amser mewn unrhyw achos arbennig (rheoliad 7);

ff

caiff y Cynulliad Cenedlaethol benodi arolygydd i ystyried y sylwadau, i archwilio safle (os yw'n briodol) ac i lunio adroddiad ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol gydag argymhelliad (rheoliad 8);

g

caiff yr arolygydd archwilio safle tir sy'n destun gorchymyn prynu gorfodol ynghyd â'r ardal gyfagos ar unrhyw adeg. Caiff yr archwilydd wneud yr archwiliad ar ei ben ei hunan (a hynny heb roi rhaghysbysiad i'r awdurdod caffael nac i'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu) neu yng nghwmni cynrychiolydd yr awdurdod caffael a'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu (rheoliad 9(1)). Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon hysbysiad o ddyddiad ac amser archwiliad sydd i'w wneud yng nghwmni'r personau hynny at yr awdurdod caffael a'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu, fel y caiff ei dderbyn dim llai na 5 niwrnod gwaith cyn yr archwiliad (rheoliad 9(2)). Pan na fydd cynrychiolydd o'r awdurdod caffael na'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu yn bresennol ar gyfer archwiliad, nid yw'n ofynnol i'r archwilydd ei ohirio (rheoliad 9(3));

ng

os yw'r awdurdod caffael neu'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu yn gwneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol, heb fod yn hwyrach na 10 niwrnod gwaith ar ôl y dyddiad dechrau, am archwiliad safle yn eu cwmni, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol drefnu archwiliad o'r fath (rheoliad 9(4));

h

bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu cadarnhau neu wneud y gorchymyn prynu gorfodol ar sail y sylwadau ysgrifenedig ac unrhyw adroddiad gan yr archwilydd (rheoliad 10); ac

i

bydd y Cynulliad Cenedlaethol (oni bai mai'r awdurdod caffael ydyw) yn hysbysu'r awdurdod caffael, a'r sawl sydd â'r hawl i wneud sylwadau o ran eu gwrthwynebiadau, o'r penderfyniad a'r rhesymau dros y penderfyniad. Caiff unrhyw un o'r personau hynny wneud cais am gopi o unrhyw adroddiad neu sylw a ystyriwyd; wedyn, dylid anfon yr adroddiad neu'r sylwadau dim hwyrach na 10 niwrnod gwaith ar ôl derbyn y cais (rheoliad 11).