- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
CAFFAEL TIR, CYMRU
Wedi'u gwneud
19 Hydref 2004
Yn dod i rym
31 Hydref 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”), drwy arfer ei bwerau o dan adrannau 7(2), 13A(2) a (6) a 13B(7) o Ddeddf Caffael Tir 1981(1), a pharagraff 4A(2), (7) ac (8) o Atodlen 1 iddi, a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) 2004 a deuant i rym ar 31 Hydref 2004.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol, naill ai—
(a)yn awdurdod cadarnhau(2); neu
(b)yn awdurdod priodol(3),
ac y mae'n ystyried defnyddio'r weithdrefn sylwadau ysgrifenedig, neu'n ystyried trafodion o dan y weithdrefn honno(4).
(3) Ni fydd y Rheoliadau hyn yn gymwys os digwydd y canlynol cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym—
(a)yn achos paragraff (2)(a), cyhoeddi am y tro cyntaf yr hysbysiad o wneud y gorchymyn prynu gorfodol yn unol ag adran 11(1) o Ddeddf Caffael Tir 1981; neu
(b)yn achos paragraff (2)(b), cyhoeddi am y tro cyntaf yr hysbysiad o baratoi'r gorchymyn prynu gorfodol ar ffurf ddrafft yn unol â pharagraff (2) o Atodlen 1 i'r Ddeddf honno.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “anfon” (“send”) yw anfon rhywbeth, gan ragdalu am y post dosbarth cyntaf, sydd wedi'i gyfeirio at y cyfeiriad cywir(5) neu at unrhyw gyfeiriad amgen y bydd y derbyniwr yn gofyn amdano;
ystyr “y cyflwyniad” (“the submission”) yw'r cyflwyniad sy'n gofyn am gadarnhau gorchymyn prynu gorfodol o dan Ran II o Ddeddf Caffael Tir 1981 neu sy'n gofyn am wneud gorchymyn prynu gorfodol a baratowyd ar ffurf ddrafft o dan Atodlen 1 i'r Ddeddf honno;
mae “datganiad” (“statement”) yn cynnwys ffotograff, map neu blan, ond yn eithrio datganiadau llafar;
ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Ddydd Nadolig, yn Ddydd Gwener y Groglith nac yn ŵ yl y banc o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(6);
ystyr “dyddiad dechrau” (“starting date”) yw'r dyddiad dechrau y cyfeirir ato yn rheoliad 4(a);
ystyr “y sawl sy'n parhau i wrthwynebu” (“remaining objector”) yw person sydd â gwrthwynebiad sy'n parhau(7)); ac
ystyr “sylwadau” (“representations”) yw sylwadau ysgrifenedig, datganiadau a dogfennau ategol.
(2) Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at adrannau yn cyfeirio at adrannau Deddf Caffael Tir 1981, ac mae cyfeiriadau at Atodlen 1 yn cyfeirio at Atodlen 1 i'r Ddeddf honno.
(3) Os y Cynulliad Cenedlaethol yw'r awdurdod caffael, mae darpariaethau'r Rheoliadau hyn sy'n gofyn am gyfathrebu rhwng y Cynulliad Cenedlaethol a'r awdurdod caffael yn gymwys gyda'r addasiadau hynny y gall fod eu hangen.
3.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn rhagnodi'r dull y caiff y sawl sy'n parhau i wrthwynebu gydsynio i'r Cynulliad Cenedlaethol ddefnyddio'r weithdrefn sylwadau ysgrifenedig.
(2) Er mwyn rhoi ei gydsyniad, rhaid i'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu ddychwelyd i'r Cynulliad Cenedlaethol, fel y bydd yn dod i law dim hwyrach na'r dyddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (4), yr hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (3) gan nodi arno gydsyniad y gwrthwynebydd i ddefnyddio'r weithdrefn sylwadau ysgrifenedig.
(3) Rhaid i'r hysbysiad fod ar y ffurf a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn neu ar ffurf sy'n sylweddol debyg o ran ei heffaith.
(4) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon yr hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (3) at bob un sy'n parhau i wrthwynebu a rhaid hysbysu dyddiad gyda'r hysbysiad hwnnw nad sy'n llai na 15 o ddiwrnodau gwaith ar ôl y dyddiad pan anfonir yr hysbysiad at y sawl sy'n gwrthwynebu.
(5) Os na roddir cydsyniad gan bob un sy'n parhau i wrthwynebu yn unol â pharagraff (2), bydd y Cynulliad Cenedlaethol, yn ddarostyngedig i baragraff (6), yn mynd rhagddo ar y sail nad yw'r weithdrefn sylwadau ysgrifenedig yn gymwys.
(6) Os daw'r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (3), lle y dangosodd y sawl sy'n parhau i wrthwynebu ei gydsyniad i ddefnyddio'r weithdrefn sylwadau ysgrifenedig, i law'r Cynulliad Cenedlaethol ar ôl y dyddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (4), caiff y Cynulliad Cenedlaethol drin y sawl sy'n gwrthwynebu fel un a gydsyniodd i ddefnyddio'r weithdrefn sylwadau ysgrifenedig ac, os felly, caiff ddewis mynd rhagddo o dan y weithdrefn honno os yw'n rhesymol o dan yr holl amgylchiadau i wneud hynny.
(7) Os yw paragraff (6) yn gymwys, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ystyried pa gamau a gymerwyd gan yr awdurdod caffael a'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu neu drydydd parti y dylid ystyried eu bod yn golygu iddynt gydymffurfio'n sylweddol ag unrhyw ofynion sy'n dilyn yn y Rheoliadau hyn a rhaid iddo hysbysu'r personau hynny yn unol â hynny.
4. Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu bod y weithdrefn sylwadau ysgrifenedig yn gymwys, rhaid iddo, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, roi gwybod i bob un o'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu, a'r awdurdod caffael, yn ysgrifenedig am—
(a)y dyddiad a fydd yn ddyddiad dechrau ar gyfer y weithdrefn sylwadau ysgrifenedig;
(b)y cyfeirnod a roddwyd i'r cyflwyniad;
(c)y cyfeiriad y dylid anfon cyfathrebu ysgrifenedig at y Cynulliad Cenedlaethol; ac
(ch)teitlau neu ddisgrifiadau y datganiadau sy'n bodoli eisoes a fydd yn cael eu hystyried gan y Cynulliad Cenedlaethol fel sylwadau wrth benderfynu ar y cyflwyniad.
5.—(1) Cymerir fod unrhyw ddatganiad y mae'r awdurdod caffael yn ei roi i bawb sy'n parhau i wrthwynebu, ar yr adeg y mae'n rhoi hysbysiad o dan adran 12 neu baragraff 3 o Atodlen 1, yn ffurfio rhan o sylwadau'r awdurdod caffael at ddibenion y weithdrefn sylwadau ysgrifenedig.
(2) Rhaid i'r awdurdod caffael roi unrhyw ddatganiad o'r math a grybwyllir ym mharagraff (1) i'r Cynulliad Cenedlaethol, ond caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddiystyru'r datganiad hwnnw os derbyniodd ef fwy na 5 niwrnod gwaith ar ôl y dyddiad dechrau.
(3) Bydd y gwrthwynebiad a wnaed i'r Cynulliad Cenedlaethol gan neu ar ran y sawl sy'n parhau i wrthwynebu yn ffurfio rhan o sylwadau'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu at ddibenion y weithdrefn sylwadau ysgrifenedig, ac, os na fydd wedi gwneud hynny eisioes, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon copi o'r gwrthwynebiad at yr awdurdod caffael er mwyn iddo ddod i law ymhen dim mwy na 5 niwrnod gwaith ar ôl y dyddiad dechrau.
(4) Caiff yr awdurdod caffael—
(a)gwneud sylwadau pellach i gefnogi ei gyflwyniad; neu
(b)dewis trin unrhyw ddatganiad o dan baragraff (1) fel ei sylwadau mewn perthynas â'r cyflwyniad at ddibenion is-baragraff (a); ac, os digwydd hynny, rhaid i'r awdurdod caffael hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol a phawb sy'n parhau i wrthwynebu yn unol â hynny.
(5) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddiystyru sylwadau a wnaed o dan baragraff (4) os yw'n derbyn y sylwadau hynny fwy na 14 o ddiwrnodau gwaith ar ôl y dyddiad dechrau.
(6) Caiff y sawl sy'n parhau i wrthwynebu—
(a)gwneud sylwadau i'r Cynulliad Cenedlaethol yn ychwanegol at y rheini ym mharagraff (3); neu
(b)dewis trin y gwrthwynebiad o dan baragraff (3) fel sylwadau'r gwrthwynebydd hwnnw at ddibenion is-baragraff (a); ac, os digwydd hynny, rhaid iddo hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol a'r awdurdod caffael yn unol â hynny.
(7) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddiystyru sylwadau a wnaed o dan baragraff (6) os yw'r sylwadau yn dod i law mwy na 15 o ddiwrnodau gwaith ar ôl iddo anfon copi o'r sylwadau o dan baragraff (4)(a), neu hysbysiad o dan baragraff (4)(b), at y sawl sy'n parhau i wrthwynebu.
(8) Caiff yr awdurdod caffael wneud sylwadau i'r Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â sylwadau'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu a wnaed o dan baragraff (6)(a) neu unrhyw sylwadau a wnaed o dan reoliad 6 isod.
(9) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddiystyru sylwadau a wnaed o dan baragraff (8) os daeth y sylwadau i law'r Cynulliad Cenedlaethol—
(a)mwy na 10 niwrnod gwaith ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon copi o'r sylwadau o dan baragraff (6)(a) at yr awdurdod caffael; neu
(b)mwy na 10 niwrnod gwaith ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon hysbysiad o dan reoliad 6(3) o'r Rheoliadau hyn, os na wnaed sylwadau o dan baragraff (6)(a).
(10) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ofyn i'r awdurdod caffael, a phob un o'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu, ddarparu copïau ychwanegol o sylwadau i'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn unrhyw amserlen resymol y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ei phennu.
(11) Er mwyn i'r broses medru cael ei chwblhau'n ddi-oed, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, anfon—
(a)copi o unrhyw sylwadau a wnaed gan yr awdurdod caffael at bob un o'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu;
(b)copi o unrhyw sylwadau a wnaed gan y sawl sy'n parhau i wrthwynebu at yr awdurdod caffael; ac
(c)hysbysiad at bob un o'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu a'r awdurdod caffael na wnaed unrhyw sylwadau eraill o fewn y cyfnod a ganiateir gan y rheoliad hwn.
6.—(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ganiatáu i unrhyw berson nad yw'n awdurdod caffael nac yn parhau i wrthwynebu wneud sylwadau.
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddiystyru sylwadau a wnaed yn unol â pharagraff (1) os derbynnir hwy gan y Cynulliad Cenedlaethol mwy na 14 o ddiwrnodau gwaith ar ôl y dyddiad dechrau.
(3) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, anfon at bob un o'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu a'r awdurdod caffael—
(a)copi o unrhyw sylwadau a wnaed o dan baragraff (1); neu
(b)hysbysiad na wnaed sylwadau o dan baragraff (1) o fewn y cyfnod a ganiateir.
(4) Caiff yr awdurdod caffael wneud sylwadau i'r Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas ag unrhyw sylwadau a wnaed o dan baragraff (1).
(5) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddiystyru sylwadau a wnaed o dan baragraff (4) os derbyniodd hwy fwy na 10 o ddiwrnodau gwaith ar ôl iddo anfon copi o'r sylwadau a wnaed o dan baragraff (1) at yr awdurdod caffael.
(6) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ofyn i unrhyw berson sy'n gwneud sylwadau o dan baragraff (1), neu'r awdurdod caffael, roi copïau ychwanegol o'r sylwadau iddo o fewn amserlen resymol y caiff y Cynulliad ei phennu.
7. Mewn achos penodol, caiff y Cynulliad Cenedlaethol roi cyfarwyddiadau i osod terfynau amser hwyrach ar gyfer cael sylwadau na'r rheini a ganiateir gan reoliadau 5 a 6.
8. Caiff y Cynulliad Cenedlaethol benodi archwilydd i—
(a)ystyried y datganiadau a roddwyd o dan reoliad 4(ch) a'r sylwadau a roddwyd yn unol â rheoliadau 5 a 6;
(b)archwilio safle, os bydd hynny'n briodol; ac
(c)cyflwyno adroddiad ysgrifenedig, ynghyd ag argymhelliad, i'r Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â'r cyflwyniad.
9.—(1) Caiff yr archwilydd, ar unrhyw adeg, gynnal—
(a)archwiliad heb rywun yn gwmni iddo a heb roi rhaghysbysiad ohono i'r awdurdod caffael na'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu; a
(b)archwiliad yng nghwmni yr awdurdod caffael a phob un o'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu, neu eu cynrychiolwyr,
o dir sy'n destun i'r gorchymyn prynu gorfodol ac o'r ardal gyfagos.
(2) Yn achos archwiliad o dan baragraff (1)(b), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon hysbysiad o ddyddiad ac amser yr archwiliad at yr awdurdod caffael a'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu, fel y bydd yn dod i law dim llai na 5 niwrnod gwaith cyn y dyddiad hwnnw.
(3) Nid yw'n ofynnol i'r archwilydd ohirio archwiliad o dan baragraff (1)(b) os na fydd unrhyw berson a grybwyllir yn y paragraff hwnnw yn bresennol ar yr adeg a bennwyd.
(4) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn derbyn cais gan yr awdurdod caffael neu gan un o'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu yn gofyn am archwiliad, a hynny heb fod yn hwyrach na 10 niwrnod gwaith ar ôl y dyddiad dechrau, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol drefnu archwiliad o'r fath.
10.—(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddod i benderfyniad ar sail y datganiadau a wnaed o dan reoliad 4(ch), sylwadau a roddwyd yn unol â rheoliadau 5 a 6 ynghyd ag unrhyw adroddiad a baratowyd yn unol â rheoliad 8(c).
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddod i benderfyniad o leiaf 10 niwrnod gwaith ar ôl anfon hysbysiad o'i fwriad i wneud hynny at yr awdurdod caffael ac at bob un o'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu, er na wnaed unrhyw sylwadau o fewn y terfynau amser a ganiatawyd neu a estynnwyd o dan y Rheoliadau hyn, os ymddengys i'r Cynulliad Cenedlaethol fod ganddo ddigon o ddeunydd i ddod i benderfyniad.
11.—(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon hysbysiad ysgrifenedig o'i benderfyniad, a'r rhesymau dros wneud y penderfyniad hwnnw, at—
(a)yr awdurdod caffael;
(b)pob un o'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu; ac
(c)unrhyw berson arall a ganiatawyd i wneud sylwadau o dan reoliad 6.
(2) Os bydd person sydd â'r hawl i gael hysbysiad o'r penderfyniad eisiau gwneud cais am gyfle i archwilio unrhyw adroddiad neu sylw a ystyriwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol wrth ddod i'w benderfyniad, neu i gael copïau ohonynt, rhaid iddo wneud cais ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn 6 wythnos i'r dyddiad y cafodd ei hysbysu o'r penderfyniad; ac, os gwneir cais o'r fath, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl derbyn y cais, wneud trefniadau ar gyfer yr archwiliad neu, a hynny heb fod yn hwyrach na 10 niwrnod gwaith ar ôl iddo dderbyn y cais, anfon y copi y gofynnwyd amdano at y person hwnnw.
12. Gellir anfon drwy'r post neu drwy gyfrwng cyfathrebu electronig unrhyw ddogfen y mae'n ofynnol ei hanfon neu yr awdurdodir ei hanfon gan y naill berson at y llall o dan ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn; a rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at ysgrifennu yn y Rheoliadau hyn, sut bynnag y caiff ei fynegi, fel pe bai'n cynnwys cyfeiriad at ffurf y mae modd ei chadw ar gyfrifiadur, ei throsglwyddo i gyfrifiadur ac oddi wrth gyfrifiadur, a'i darllen drwy gyfrwng cyfrifiadur.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(8).
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
19 Hydref 2004
Rheoliad 3(3)
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi'r weithdrefn sylwadau ysgrifenedig (“y weithdrefn”) y gellir ei defnyddio wrth benderfynu a ddylid awdurdodi prynu tir yn orfodol os Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) yw'r awdurdod caffael neu gadarnhau ac y mae gweithdrefnau Deddf Caffael Tir 1981 (“y Ddeddf”) yn gymwys.
Gellir penderfynu ar y gwrthwynebiadau o ran cadarnhau gorchymyn prynu gorfodol a wneir o dan Ran II o'r Ddeddf (fel a ddiffinnir yn adran 13A(1) o'r Ddeddf) na chawsant eu tynnu'n ôl ac na ellir eu diystyru (“gwrthwynebiadau sy'n parhau”) yn ôl gweithdrefn a ragnodwyd gan reoliadau (adran 13A o'r Ddeddf). Dyma ddewis amgen i gynnal ymchwiliad, ar yr amod bod pawb sy'n parhau i wrthwynebu yn cydsynio yn y modd a ragnodwyd.
Yn yr un modd, gellir penderfynu ar y gwrthwynebiadau sy'n parhau o ran gwneud gorchymyn prynu gorfodol o dan Atodlen 1 i'r Ddeddf (fel a ddiffinnir ym mharagraff 4A(1) o Atodlen 1 i'r Ddeddf) yn ôl y weithdrefn honno (paragraff 4A o Atodlen 1 i'r Ddeddf).
Mae prif gamau'r weithdrefn yn cynnwys—
(a)os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried defnyddio'r weithdrefn, bydd yn anfon ffurflen gydsynio (ar y ffurf a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn) at bawb sy'n parhau i wrthwynebu, gan ofyn am eu cydsyniad ysgrifenedig i ddefnyddio'r weithdrefn (rheoliad 3);
(b)dim ond os bydd yr holl wrthwynebwyr hynny yn cydsynio y caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddefnyddio'r weithdrefn. Nid oes rheidrwydd arno i ddefnyddio'r weithdrefn ond, os yw'n penderfynu y dylai'r weithdrefn fod yn gymwys, bydd yn rhoi dyddiad dechrau ar gyfer y weithdrefn (rheoliad 4);
(c)bydd unrhyw ddogfennau a gyflwynir gan yr awdurdod caffael i'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu ar adeg gwneud gorchymyn prynu gorfodol neu baratoi gorchymyn o'r fath ar ffurf drafft, ac unrhyw lythyrau neu ddogfennau eraill a roddir i'r Cynulliad Cenedlaethol yn wrthwynebiadau i gadarnhau neu wneud y gorchymyn, yn mynd yn rhan o'r sylwadau a fydd i'w hystyried (rheoliad 5(1) a (2));
(ch)oni bai bod yr awdurdod caffael yn dewis peidio â gwneud hynny, caiff wneud sylwadau i gefnogi ei gais (y gellir eu diystyru os derbynnir hwy mwy na 14 o ddiwrnodau gwaith ar ôl y dyddiad dechrau). Anfonir copi o'r sylwadau hynny at bawb sy'n parhau i wrthwynebu (rheoliad 5(4) a (5));
(d)caiff unrhyw un sy'n parhau i wrthwynebu ymateb gyda sylwadau (y gellir eu diystyru os derbynnir hwy fwy na 15 o ddiwrnodau gwaith ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon copi o sylwadau'r awdurdod caffael, o dan baragraff (ch) uchod) (rheoliad 5(6) a (7));
(dd)caiff yr awdurdod caffael, wrth ymateb i sylwadau rhywun sy'n parhau i wrthwynebu a grybwyllir ym mharagraff (d) uchod, wneud sylwadau pellach (y gellir eu diystyru os derbynnir hwy fwy na 10 niwrnod gwaith ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol neu'r awdurdod caffael, os yw'n wahanol, anfon copi o sylwadau'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu) (rheoliad 5(8) a (9));
(e)caiff y Cynulliad Cenedlaethol ganiatáu i unrhyw berson arall wneud sylwadau (y gellir eu diystyru os derbynnir hwy fwy na 14 o ddiwrnodau gwaith ar ôl y dyddiad dechrau a bennwyd i'r awdurdod caffael roi ei sylwadau) (rheoliad 6);
(f)mae gan y Cynulliad Cenedlaethol ddisgresiwn i estyn y terfynau amser mewn unrhyw achos arbennig (rheoliad 7);
(ff)caiff y Cynulliad Cenedlaethol benodi arolygydd i ystyried y sylwadau, i archwilio safle (os yw'n briodol) ac i lunio adroddiad ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol gydag argymhelliad (rheoliad 8);
(g)caiff yr arolygydd archwilio safle tir sy'n destun gorchymyn prynu gorfodol ynghyd â'r ardal gyfagos ar unrhyw adeg. Caiff yr archwilydd wneud yr archwiliad ar ei ben ei hunan (a hynny heb roi rhaghysbysiad i'r awdurdod caffael nac i'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu) neu yng nghwmni cynrychiolydd yr awdurdod caffael a'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu (rheoliad 9(1)). Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon hysbysiad o ddyddiad ac amser archwiliad sydd i'w wneud yng nghwmni'r personau hynny at yr awdurdod caffael a'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu, fel y caiff ei dderbyn dim llai na 5 niwrnod gwaith cyn yr archwiliad (rheoliad 9(2)). Pan na fydd cynrychiolydd o'r awdurdod caffael na'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu yn bresennol ar gyfer archwiliad, nid yw'n ofynnol i'r archwilydd ei ohirio (rheoliad 9(3));
(ng)os yw'r awdurdod caffael neu'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu yn gwneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol, heb fod yn hwyrach na 10 niwrnod gwaith ar ôl y dyddiad dechrau, am archwiliad safle yn eu cwmni, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol drefnu archwiliad o'r fath (rheoliad 9(4));
(h)bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu cadarnhau neu wneud y gorchymyn prynu gorfodol ar sail y sylwadau ysgrifenedig ac unrhyw adroddiad gan yr archwilydd (rheoliad 10); ac
(i)bydd y Cynulliad Cenedlaethol (oni bai mai'r awdurdod caffael ydyw) yn hysbysu'r awdurdod caffael, a'r sawl sydd â'r hawl i wneud sylwadau o ran eu gwrthwynebiadau, o'r penderfyniad a'r rhesymau dros y penderfyniad. Caiff unrhyw un o'r personau hynny wneud cais am gopi o unrhyw adroddiad neu sylw a ystyriwyd; wedyn, dylid anfon yr adroddiad neu'r sylwadau dim hwyrach na 10 niwrnod gwaith ar ôl derbyn y cais (rheoliad 11).
1981 p.67; mewnosodwyd adrannau 13A(2) a (6) a 13B(7) o Ddeddf Caffael Tir 1981, a pharagraff 4A(2), (7) ac (8) o Atodlen 1 iddi, gan Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p.5). Mewn perthynas â Chymru, mae'r pwerau a geir yn y darpariaethau hynny, gan mwyaf, yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd adran 121(1) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004. Trosglwyddwyd y rhan fwyaf o swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas ag awdurdodi prynu tir yn orfodol yng Nghymru (gan gynnwys adran 7(2) o Ddeddf Caffael Tir 1981) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
I gael gweld y diffiniad o “confirming authority”, gweler adran 7(1) o Ddeddf Caffael Tir 1981.
I gael gweld y diffiniad o “appropriate authority”, gweler paragraff 4(8) o Atodlen 1 i Ddeddf Caffael Tir 1981, adran 118(3) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 ac O.S. 1999/672.
I gael gweld y diffiniad o “written representations procedure”, gweler adran 13A(6) o Ddeddf Caffael Tir 1981, a pharagraff 4A(7) o Atodlen 1 iddi.
I gael gweld ystyr “proper address”, gweler adran 6(3) o Ddeddf Caffael Tir 1981.
I gael gweld y diffiniad o “remaining objection”, gweler adran 13A o Ddeddf Caffael Tir 1981, a pharagraff 4A(1) o Atodlen 1 iddi.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include: