- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
14.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff awdurdod tân ddarparu ar gyfer addasiad blynyddol i lwfans gofal am y flwyddyn sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2006 a blynyddoedd dilynol.
(2) Ni fydd addasiad blynyddol i lwfans gofal sy'n daladwy gan awdurdod tân i gadeirydd, is-gadeirydd neu aelod yn fwy na'r cyfanswm sy'n cynrychioli cyfartaledd yr holl addasiadau blynyddol a wnaed (os gwnaed addasiadau) gan ei awdurdodau cyfansoddol i'r lwfans gofal(1) sy'n daladwy gan yr awdurdodau hynny y flwyddyn honno o dan Reoliadau 2002.
(3) Pan fo awdurdod tân i addasu swm lwfans gofal, caiff yr awdurdod hwnnw ddarparu bod yr hawl i'r lwfans fel y'i addaswyd yn gymwys o ddechrau'r flwyddyn y gwneir yr addasiad ynddi.
(4) Pan nad yw awdurdod tân yn darparu bod yr hawl i gael lwfans gofal sydd wedi'i addasu yn gymwys o ddechrau blwyddyn, fel a ddisgrifir ym mharagraff (3)—
(a)bydd yr addasiad yn effeithiol o ddyddiad yr addasu; a
(b)bydd yr hawl i gael y lwfans gofal hwnnw fel y'i addaswyd yn hawl i gael tâl am y gyfran honno o'r lwfans hwnnw sy'n cyfateb i nifer y dyddiau y mae'r lwfans yn effeithiol yn ystod y flwyddyn honno o'i chymharu â nifer y dyddiau yn y flwyddyn honno.
Gweler rheoliad 10 o O.S. 2002/1895 (Cy.196).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include: