xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r ffurflen a welir yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) 1996 (O.S. 1996/2891). Y ffurflen ragnodedig ar gyfer ceisiadau am grant o dan Bennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 (“y Ddeddf”) yw'r ffurflen. Mae'r cwestiynau a'r nodiadau sydd wedi'u cynnwys yn y ffurflen ragnodedig yn adlewyrchu'r rheolau prawf moddion ar gyfer ceisiadau am grant sydd wedi'u cynnwys yn Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 (O.S. 1996/2890) (“Rheoliadau 1996”).

Mae'r diwygiadau sy'n cael eu gwneud gan y Rheoliadau hyn yn gymwys i geisiadau am grant sy'n cael eu gwneud ar neu ar ôl 9 Chwefror 2004 i awdurdodau tai lleol yng Nghymru. Maent yn ganlyniad i newidiadau a wnaed i'r Ddeddf gan Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Cymorth Tai) Lloegr a Chymru 2002 (O.S. 2002/1860) (“Deddf 2002”) a chan Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/) (“Rheoliadau 2004”).

O ganlyniad i'r newidiadau a wnaed gan Orchymyn 2002 a Rheoliadau 2004, mae'r ffurflen ragnodedig yn cael ei diwygio gan y Rheoliadau hyn fel y bo'n gymwys yn unig i geisiadau (heblaw cais landlord) am grant tuag at gostau gwaith y mae ei angen i ddarparu cyfleusterau ar gyfer personau anabl.

Yn rhinwedd y newidiadau a wnaed i'r Ddeddf gan Orchymyn 2002, gall ceisiadau am grant gael eu gwneud bellach gan feddianwyr cychod preswyl cymwys a chartrefi parc cymwys ac mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r ffurflen ragnodedig i adlewyrchu hyn. Ymhlith newidiadau eraill sy'n ganlyniad i Reoliadau 2004, mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r ffurflen ragnodedig i gymryd i ystyriaeth gredydau treth newydd a gyflwynwyd drwy Ddeddf Credydau Treth 2002 a Deddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002.