(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Dyma'r pumed Gorchymyn Cychwyn a wnaed o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (“y Ddeddf”) ac mae'n gymwys i Gymru yn unig.
Mae'r Gorchymyn yn dwyn darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym ar 7 Chwefror 2004 —
adrannau 2(6) a 65, sy'n ddarpariaethau dehongli;
pwerau gwneud rheoliadau yn adrannau 4(6) a (7), 9 i 11, 12(1) i (3), 27(3), 53(1) i (3), 54, 56(1) a (3), 57(6), 59, 63, 64 a 98;
at ddibenion gwneud rheoliadau yn unig, adrannau 4(1)(b) a (5), 57(5), 58(2) a (3), 60(2) a (4), 61(5)(c) a 62(7)(c);
paragraffau 3 (gwasanaethau cymorth mabwysiadu) a 5 (mecanwaith adolygu annibynnol) o Atodlen 4.