2004 Rhif 2414 (Cy.222)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
IECHYD Y CYHOEDD, CYMRU

Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Plant 1989 (Diwygio Rheoliadau Amrywiol) (Cymru) 2004

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(b)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 22(1), (2)(a), (b), (7)(c) a 118(6) o Ddeddf Safonau Gofal 20001 ac adrannau 79C(2), (3)(b), (f) a (104)(a) o Ddeddf Plant 19892, a chan ei fod o'r farn nad yw drwy hyn yn rhoi ar waith unrhyw newid sylweddol yn y ddarpariaeth a wnaed eisoes gan reoliadau o dan adran 22 o Ddeddf 20003, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: