(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n berthnasol i Gymru yn unig, yn cydgrynhoi gyda diwygiadau Reoliadau Tatws sy'n Tarddu o'r Aifft 1998 (“Rheoliadau 1998”). Mae'r Rheoliadau yn gweithredu Penderfyniad y Comisiwn 2004/4/EC sy'n awdurdodi Aelod-wladwriaethau i gymryd mesurau ychwanegol dros dro yn erbyn lledaenu Pseudomonas solanacearum (Smith) Smith (a elwir bellach yn Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al.) o ran yr Aifft (“y Penderfyniad”). Dim ond os cydymffurfiwyd â'r mesurau sydd wedi'u gosod yn y Penderfyniad y mae'r Penderfyniad yn caniatáu i datws sy'n tarddu o'r Aifft, ac eithrio tatws hadyd, gael eu mewnforio i'r Gymuned Mae'n cydgrynhoi ac yn dirymu Penderfyniad y Comisiwn 96/301/EC (fel y'i diwygiwyd).

Mae Rheoliad 3(1) yn gwneud darpariaeth ynglŷn â'r dystysgrif ffytoiechydol sy'n ofynnol o dan Orchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993 (“y Gorchymyn”) sydd i fynd gyda mewnforion cloron tatws i Gymru ac y mae mewnforion o'r fath yn cael eu gwahardd hebddi. Yn achos tatws sy'n tarddu o'r Aifft, rhaid i'r dystysgrif gydymffurfio â'r gofynion ychwanegol sydd wedi'u gosod gan y Penderfyniad. Mae unrhyw berson sy'n mewnforio tatws o'r fath heb dystysgrif ffytoiechydol ddilys, yn groes i'r gwaharddiad sydd wedi'i osod gan Orchymyn 1993, gyda'r bwriad o osgoi'r gwaharddiad, yn euog o dramgwydd o dan adran 50(3) o Ddeddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979 (p.2) a chaniateir ei arestio.

Mae unrhyw berson a geir yn euog o dramgwydd o'r fath o dan adran 50(3) yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i gosb o £5,000 neu dair gwaith gwerth y nwyddau, p'un bynnag yw'r mwyaf, neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na chwe mis, neu'r ddau; neu, o'i gollfarnu ar dditiad, i gosb o unrhyw swm, neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na saith mlynedd, neu'r ddau.

Mae'r tramgwydd hwn o dan adran 50(3) yn disodli tramgwydd tebyg o fewnforio tatws yn groes i Reoliadau 1998, a oedd wedi'i gynnwys yn y Rheoliadau hynny.

Mae Rheoliad 3(2) yn dileu, o ran mewnforion tatws sy'n tarddu o'r Aifft, y gofyniad o dan Orchymyn 1993 i ddatganiad swyddogol bod y tatws yn tarddu o ardaloedd lle nad yw'n hysbys bod Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al. yn digwydd.

Mae Rheoliad 4 yn gosod gofyniad bod mangreoedd, (ac eithrio mangreoedd penodol sy'n cael eu defnyddio ar gyfer pacio neu baratoi tatws i'w cyflwyno i'r defnyddiwr olaf) sy'n cael eu defnyddio i drin tatws sy'n tarddu o'r Aifft, yn cael eu cymeradwyo at y diben hwnnw gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae methu â chydymffurfio â'r gofyniad hwn yn dramgwydd sy'n peri bod y tramgwyddwr yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol (sef £5,000 ar hyn o bryd) (rheoliad 7).

Mae Rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi'r Rheoliadau drwy archwilwyr ac mae rheoliad 6 yn darparu pwer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru godi ffi o £37.50 am gymryd samplau o datws sy'n tarddu o'r Aifft i ddarganfod a ydynt wedi'u heintio â Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al. yn unol â'r Penderfyniad. Mae hyn heb ei newid o'r ffi a oedd yn daladwy am samplu o'r fath o dan Reoliadau 1998.

Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi ac mae ar gael oddi wrth yr Is-Adran Polisi Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, Cynulliad Cendlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.