Offerynnau Statudol Cymru
CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU
Wedi'i wneud
13 Gorffennaf 2004
Mae Cynulliad Cendlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”), drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 121(5) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (“y Ddeddf”)(1), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2004.
2. Y diwrnod a benodwyd i'r darpariaethau canlynol ddod i rym, sef—
(a)adran 62(4) a (5)(g) (ffurf a chynnwys cynlluniau);
(b)adran 63(3)(a) a (7) (pŵer i ragnodi personau y dylid eu cynnwys mewn cynllun cynnwys y gymuned a gofynion paratoi cynlluniau);
(c)adran 75 (canllawiau);
(ch)adran 76(2) a (3), ond yn unig at bwrpas galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud rheoliadau yn rhagnodi'r materion y cyfeirir atynt yn yr is-adrannau hynny (adroddiadau monitro blynyddol);
(d)adran 77 (pwerau gwneud rheoliadau); ac
(dd)adran 78 (dehongli),
yw 1 Awst 2004.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Gorffennaf 2004
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â rhai o ddarpariaethau Rhan 6 (Cymru) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (“y Ddeddf”) i rym ar y 1 Awst 2004, sef adrannau 62(4) a (5)(g), 63(3)(a) a (7), 75, 76(2) a (3), 77 a 78.
Mae Rhan 6 o'r Ddeddf (adrannau 60 i 78) yn sefydlu, yng Nghymru, system o gynlluniau datblygu lleol (“cynlluniau”) yn lle'r cynlluniau datblygu unedol sy'n ofynnol o dan Bennod I o Ran II o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Effaith y Gorchymyn fydd galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) i wneud rheoliadau ac i roi canllawiau i awdurdodau cynllunio lleol yng Nghymru wrth iddynt baratoi ar gyfer y system cynlluniau datblygu newydd, a ddaw i rym maes o law.
Mae adran 62(4) yn rhoi pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol i ragnodi, drwy reoliadau, ffurf a chynnwys cynlluniau.
Mae adran 62(5)(g) yn rhoi pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol ragnodi, drwy reoliadau, materion ychwanegol i'r rhai a restrwyd yn is-adran (5), y bydd yn rhaid i awdurdodau cynllunio lleol dalu sylw iddynt wrth baratoi cynllun.
Mae adran 63 yn darparu ar gyfer cynlluniau cynnwys y gymuned, a fydd yn datgan polisi awdurdod ar gynnwys personau penodol wrth arfer swyddogaethau'r awdurdod o dan Rhan 6. Mae adran 63(3)(a) yn rhoi pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol i ragnodi, drwy reoliadau, pwy y dylai'r personau hynny gynnwys.
Mae adran 63(7) yn rhoi pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol ragnodi, drwy reoliadau, nifer o faterion sy'n ymwneud â pharatoi cynlluniau.
Mae adran 75 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau, wrth arfer unrhyw swyddogaeth a roddir o dan neu yn rhinwedd Rhan 6, dalu sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan y Cynulliad Cenedlaethol.
Mae adran 76(2) yn ei gwneud yn ofynnol bod adroddiadau monitro blynyddol a wneir gan awdurdodau o dan is-adran (1) yn cynnwys yr wybodaeth a ragnodir gan y Cynulliad Cenedlaethol drwy reoliadau.
Mae adran 76(3) yn ei gwneud yn ofynnol i adroddiadau monitro blynyddol gael eu gwneud ar yr amserau, i fod yn y ffurf ac i gynnwys yr wybodaeth a ragnodir gan y Cynulliad Cenedlaethol drwy reoliadau.
Mae adran 77 yn rhoi pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol, drwy reoliadau, wneud darpariaeth mewn perthynas ag arfer swyddogaethau o dan Ran 6 ac, yn arbennig, i wneud darpariaeth mewn perthynas â'r materion a restrir yn adran 77(2).
Mae adran 78 yn diffinio termau a ddefnyddir yn Rhan 6 o'r Ddeddf.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Daeth y ddarpariaeth ganlynol o Ran 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 i rym ar y dyddiad a nodir isod yn sgil Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/1814 (Cy.199) (C.74)).
| Darpariaeth | Dyddiad |
|---|---|
| Adran 60 | 14 Gorffennaf 2004 |