Diwrnod penodedig2.
Y diwrnod a benodwyd i'r darpariaethau canlynol ddod i rym, sef—
(a)
adran 62(4) a (5)(g) (ffurf a chynnwys cynlluniau);
(b)
adran 63(3)(a) a (7) (pŵer i ragnodi personau y dylid eu cynnwys mewn cynllun cynnwys y gymuned a gofynion paratoi cynlluniau);
(c)
adran 75 (canllawiau);
(ch)
adran 76(2) a (3), ond yn unig at bwrpas galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud rheoliadau yn rhagnodi'r materion y cyfeirir atynt yn yr is-adrannau hynny (adroddiadau monitro blynyddol);
(d)
adran 77 (pwerau gwneud rheoliadau); ac
(dd)
adran 78 (dehongli),
yw 1 Awst 2004.