xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
PRIFFYRDD, CYMRU
Wedi'u gwneud
13 Gorffennaf 2004
Yn dod i rym
30 Gorffennaf 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”), drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 75 a 104(1) o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gweithfeydd Stryd 1991(1), ac sy'n arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â Chymru(2), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gweithfeydd Stryd (Ffioedd Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2004 ac maent yn dod i rym ar 30 Gorffennaf 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2. Yn rheoliad 3(1) o Reoliadau Gweithfeydd Stryd (Ffioedd Archwilio) 1992(3) amnewdir am y ffigur “£20” yno y ffigur “£21”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Gorffennaf 2004
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn cynyddu o £20 i £21, y ffi sy'n daladwy gan ymgymerwyr am archwiliadau o'u gwaith gan awdurdodau stryd yng Nghymru o dan reoliad 3(1) o Reoliadau Gweithfeydd Stryd (Ffioedd Archwilio) 1992 (O.S.1992/1688).
Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru: gweler Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.
O.S. 1992/1688; diwygiwyd rheoliad 3(1) gan O.S. 1998/978, O.S. 2001/ 2681 (Cy.222) ac O.S. 2002/3181 (Cy.297).