http://www.legislation.gov.uk/wsi/2004/1803/contents/made/welsh
Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Cymru) 2004
cy
King's Printer of Acts of Parliament
2011-07-05
ANIFEILIAID, CYMRU;IECHYD ANIFEILIAID
Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu ac yn disodli Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Cymru) 2003. Dyma'r newidiadau y mae'n eu gwneud i'r Gorchymyn hwnnw —mae'n darparu y caiff y trwyddedai newid amser dechrau'r cyfnod o 48 awr o werthiant ar fangre wedi'i phalmantu, ar yr amod bod y trwyddedai'n hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ogystal â'r awdurdod lleol ac yn rhoi cyhoeddusrwydd i'r newid (erthygl 9);mae'n darparu na all gwerthiant o gigydda dynodedig a chasgliadau o gigydda dynodedig ddigwydd ond ar fangre wedi'i phalmantu ac na ellir eu cynnal ar fangre lle mae unrhyw werthiant o fath arall, llwyth o anifeiliaid i'w traddodi ymlaen neu arddangosfa yn digwydd (erthygl 10);mae'n darparu eithriad ychwanegol at y gwaharddiad na cheir dod â cherbyd halogedig gan dom anifeiliaid i'r fangre drwyddedig nac ohoni (paragraff 4 o'r Atodlen).