Symiau diwygiedig o'r taliad colli cartref2

Pan fo'r dyddiad dadleoli ar neu ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym —

a

£34,000 yw uchafswm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(1) o'r Ddeddf;

b

£3,400 yw isafswm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(1) o'r Ddeddf; ac

c

£3,400 yw swm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(2) o'r Ddeddf.