(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn cynyddu uchafsymiau ac isafsymiau'r taliadau colli cartref sy'n daladwy o dan Ddeddf Iawndal Tir 1973 (“y Ddeddf”) i'r rhai sydd â buddiant perchennog mewn annedd. Maent hefyd yn cynyddu swm y taliad colli cartref sy'n daladwy mewn unrhyw achos arall.
Mae hawl gan berson sydd wedi'i ddadleoli drwy brynu gorfodol neu o dan amgylchiadau eraill a bennir yn adran 29 o'r Ddeddf i gael taliad colli cartref. Cafodd y sail bresennol ar gyfer asesu swm y taliad colli cartref ei sefydlu drwy ddiwygiadau a wnaed i'r Ddeddf yn Neddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 1991.
Mae adran 30(1) o'r Ddeddf yn darparu bod swm y taliad colli cartref, mewn achosion lle bo gan berson sy'n meddiannu annedd ar ddyddiad y dadleoli fuddiant perchennog, yn cael ei gyfrifo fel canran o werth y buddiant hwnnw ar y farchnad, a hynny'n ddarostyngedig i uchafswm ac isafswm.
Mae adran 30(2) yn rhagnodi swm y taliad colli cartref mewn unrhyw achos arall.
Mae rheoliad 2(a) o'r Rheoliadau hyn yn cynyddu'r uchafswm sy'n daladwy o dan adran 30(1) o'r Ddeddf o £31,000 i £34,000 ac mae rheoliad 2(b) yn cynyddu'r isafswm o £3,100 i £3,400. Mae rheoliad 2(c) yn cynyddu'r taliad colli cartref sy'n daladwy, o dan adran 30(2) o'r Ddeddf, mewn unrhyw achos arall o £3,100 i £3,400.
Dim ond uchafsymiau ac isafsymiau'r taliadau colli cartref sydd wedi'u newid ac nid oes unrhyw newid i'r ganran sy'n daladwy o werth marchnad buddiant y person sydd wedi'i ddadleoli yn yr annedd.
Mae'r symiau diwygiedig yn gymwys pan fo'r dadleoli'n digwydd ar 1 Medi 2004 neu ar ôl hynny.
Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu y bydd Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2003 yn parhau i gael effaith mewn perthynas â dadleoli sy'n digwydd cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym ond ar wahân i hynny maent wedi'u dirymu.