2004 Rhif 1758 (Cy.189)
Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2004
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Medi 2004.
2
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Symiau diwygiedig o'r taliad colli cartref2
Pan fo'r dyddiad dadleoli ar neu ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym —
a
£34,000 yw uchafswm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(1) o'r Ddeddf;
b
£3,400 yw isafswm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(1) o'r Ddeddf; ac
c
£3,400 yw swm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(2) o'r Ddeddf.
Dirymu ac arbedion3
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 20033 wedi'u dirymu.
2
Bydd y Rheoliadau a grybwyllwyd ym mharagraff (1) yn parhau i gael effaith mewn perthynas â dadleoli sy'n digwydd cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19984
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)