Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn cynyddu uchafsymiau ac isafsymiau'r taliadau colli cartref sy'n daladwy o dan Ddeddf Iawndal Tir 1973 (“y Ddeddf”) i'r rhai sydd â buddiant perchennog mewn annedd. Maent hefyd yn cynyddu swm y taliad colli cartref sy'n daladwy mewn unrhyw achos arall.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 30(5) o Ddeddf Iawndal Tir 19731 (“y Ddeddf”) ac sy'n arferadwy bellach gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru2, yn gwneud y Rheoliadau canlynol: