2004 Rhif 1749 (Cy.186)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Porthiant, Porthiant (Samplu a Dadansoddi), a Phorthiant (Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2004

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 66(1), 74A, 77(4) a 84 o Ddeddf Amaethyddiaeth 19701, ar ôl yr ymgynghori sy'n ofynnol o dan adran 84(1) o'r Ddeddf honno a gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau ar faterion diogelwch bwyd2, ac yn cael ei ddynodi3 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19724) mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud â bwyd a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd neu fwyd a fwydir iddynt, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran ddiwethaf uchod (i'r graddau na ellir gwneud y Rheoliadau hyn o dan bwerau Deddf Amaethyddiaeth 1970 a grybwyllir uchod), yn gwneud y Rheoliadau canlynol: